Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Millwall
- Cyhoeddwyd
Parhau wnaeth dechrau llwyddiannus Abertawe i'r tymor wrth i goliau gan Jake Bidwell a Ben Cabango sicrhau buddugoliaeth i'r Elyrch yn erbyn Millwall yn Stadiwm y Liberty.
Fe lwyddodd chwaraewyr Steve Cooper i sicrhau 10 pwynt o'u pedair gêm gynghrair gyntaf yn 2020-21, wrth iddyn nhw frwydro eu ffordd i fuddugoliaeth mewn gêm galed a chorfforol.
Aeth Abertawe ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner wrth i Bidwell sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb.
Ond fe ddaeth ymateb Millwall yn gyflym, gyda Tom Bradshaw yn unioni'r sgôr bum munud yn ddiweddarach, gyda'i gôl gyntaf yn y Gynghrair ers mis Ionawr.
Er nad oedd ail gôl Abertawe yn un drawiadol, roedd hi'n ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.
Fe fethodd amddiffyn Millwall a chlirio cic rydd Gibbs-White, gyda'r bêl yn disgyn yng nghanol môr o chwaraewyr.
Bu bron i Bidwell sicrhau ei ail gôl o'r prynhawn ond fe wnaeth Bialkowski digon i arbed ei ymdrech.
Ond roedd Ben Cabango yn rhydd ac fe hawliodd y fuddugoliaeth i'r Elyrch.
Fe wnaeth Millwall barhau i frwydro yn y munudau olaf ond ofer oedd eu hymdrechion.
Er nad oedd Abertawe ar eu gorau am gyfnodau, roedd eu hamddiffyn cadarn yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth yn y pen draw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020