Adran Dau: Casnewydd 2-1 Mansfield
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth cic hwyr o'r smotyn gan Matty Dolan sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd yn Rodney Parade brynhawn Sadwrn, wedi i'r tîm cartref frwydro'n ôl yn erbyn yr ymwelwyr.
Mansfield aeth ar y blaen hanner ffordd trwy'r ail hanner gyda gôl grefftus gan Stephen McLaughlin.
Ond daeth Scott Twine i unioni'r sgôr gydag ergyd isel i'r gornel chwith i guro ymdrechion Aidan Stone, oedd wedi arbed sawl ymdrech o bell cyn hynny.
Yna daeth drama'n hwyr yn y gêm pan ddyfarnwyd bod Rollin Menayese wedi llawio'r bêl yn y cwrt cosbi, gyda Dolan yn sgorio gydag ychydig o'r chwarae yn weddill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020