Cyfyngiadau yn ddryslyd i dafarn sydd ar ffin dwy sir

  • Cyhoeddwyd
new tredegar
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn y New Tredegar ar y ffin rhwng sioredd Powys a Chastell-nedd Port Talbot

Mae perchennog tafarn sydd ar y ffin rhwng siroedd Powys a Chastell-nedd Port Talbot wedi cwyno bod cyfyngiadau lleol yn ddryslyd a'i fod yn wynebu mwy o ansicrwydd nawr nag ar ddechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth.

Mae teulu Steffan Rees wedi bod yn rhedeg tafarn y New Tredegar ym mhen uchaf Cwm Tawe yng nghysgod Bannau Brycheiniog ers 1991.

Fel arfer mae'r dafarn yn denu pobl yr ardal ac ymwelwyr ond ers dechrau'r pandemig a chyfyngiadau lleol yn sgil hynny mae'r dafarn a'r bwyty yn dawelach na'r arfer ar hyn o bryd.

Wrth egluro union leoliad y dafarn dywedodd Mr Rees nad yw hanner y bobl sy'n byw yn ei bentref yn gallu dod mewn i'w dafarn oherwydd cyfyngiadau lleol.

"Ble ry'n ni'n sefyll nawr, ni ym Mhowys, ond os gerddwn ni mas mewn i ganol yr afon tu cefn y dafarn yn fanna ma' ffin Sir Castell-nedd Port Talbot," meddai.

Poeni am y dyfodol

Mae cyfyngiadau lleol yn rhannu'r gymuned.

Ar hyn o bryd mae Sir Castell-nedd Port Talbot yn un o'r siroedd lle mae cyfyngiadau lleol mewn grym, felly does dim hawl gan bobl yno i adael y sir heblaw am reswm dilys fel mynd i'r gwaith neu i'r ysgol.

"Mae hynny yn anodd ac yn ddryslyd i'r cymdogion a busnesau sydd dros y ffin ym Mhowys," medd Mr Rees.

"Lan fan hyn yng Nghwm Tawe - ni fel un gymuned - ond ni'n cael ein rhannu ac mae e yn ddryslyd i bobl.

"Mae lot o bobl ddim wedi bod mas ar wahân i ddod fan hyn achos bod nhw yn teimlo yn saff 'ma ac mae nifer ohonyn nhw ddim ond yn byw hanner milltir lawr yr hewl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steffan Rees fod pethau yn fwy anodd nawr nag ym mis Mawrth eleni

Ychwanegodd: "Fi ddim yn gw'bod be sy'n digwydd gyda'r cyfyngiadau newydd. Fi ddim yn siŵr os yw e yn well neu ydyn ni mynd nôl.

"Mae llai yn dod mewn i'r dafarn... lot o bookings ddim wedi dod mewn. Mae'r rhan fwya' o bobl fan hyn yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot."

Tra'n derbyn y rhesymau am y cyfyngiadau a hefyd yn cydnabod mai mesurau dros dro yw'r rhain mae Mr Rees yn poeni ynglŷn â beth sydd i ddod.

"Fi'n gw'bod taw dim ond pythefnos yw e, ond be sy'n digwydd os aiff Powys mewn i lockdown?

"Ni'n lwcus bo' ni'n rhedeg y busnes fel teulu, felly ni'n gallu torri lawr tamed bach a neud lot o bethe ein hunain.

"Byddwn ni yn ok fi meddwl. Ond fi yn becso gallai lot o fusnesau sy ar y ffin fel ni fan hyn gael hi'n galed iawn i ddelio â hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Cyn y pandemig arferai pobl dyrru i'r dafarn, medd y perchennog

Wrth edrych ymlaen mae Mr Rees hefyd yn edrych yn ôl ac yn cyfaddef ei fod e'n credu fod pethau yn waeth nawr na phan ddechreuodd y pandemig ym mis Mawrth.

"Mae mwy o ansicrwydd. S'dim sôn am ddiwedd a s'dim sôn am lot o gymorth. S'neb yn gw'bod pa mor hir aiff hwn mla'n... mae e'n galed yn dyw e?"

"S'dim pwynt bod ar agor a gofyn am help bob mis. Felly be' ni fod i 'neud? S'neb yn gw'bod."