Ystyried cwarantîn i deithwyr o fannau risg uchel y DU
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn dweud fod Llywodraeth Cymru "yn ystyried" cyflwyno cwarantîn yn achos pobl sy'n teithio i Gymru o ardaloedd risg uchel yn rhannau eraill y DU.
Dywedodd y byddai yna "reolau cwarantîn ar eu cyfer" petai'r ardaloedd hynny yng ngogledd Lloegr, er enghraifft, ble mae nifer uchel o achosion coronafeirws yn wledydd eraill, a bod Llywodraeth Cymru'n ystyried sut gall ddefnyddio'i grymoedd i warchod ardaloedd â niferoedd isel o achosion.
Ond does "dim rheswm da", meddai, i atal rhywun rhag teithio o ardal risg isel fel Dyfnaint i Sir Benfro.
Ddydd Gwener fe wnaeth Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wrthod galwad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i wahardd pobl rhag teithio o ardaloedd yn Lloegr sydd o dan gyfyngiadau Covid-19 i ddod ar wyliau yng Nghymru.
Awgrymodd Mr Drakeford yn gynharach yr un diwrnod ei fod yn agored i'r posibilrwydd o dynhau rheolau teithio Cymru.
Yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Gething fod yna "risg o ddigwyddiadau lledu" os yw pobl yn teithio dros y ffin o ardal fel Lerpwl, sydd dan fesurau llymach ers dydd Sadwrn.
Dywedodd fod angen i weinidogion gael cyngor gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus, ond bod y mesurau yng Nghymru ar sail ynysu ardaloedd ble mae nifer uwch o achosion a gwarchod ardaloedd ble mae'n niferoedd yn is.
Yr un yw'r ffon fesur, meddai, wrth ystyried rheolau cwarantîn rhyngwladol, a bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried sut i ddefnyddio'i grymoedd mewn ffordd "gymesur".
Quid pro quo?
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Rwy'n credu bod hwn yn lwybr peryglus i'r Gweinidog Iechyd a'r Prif Weinidog fynd arno yng Nghymru ar y sail bod 80% o boblogaeth Cymru o dan rhyw fath o gyfyngiadau Covid ar hyn o bryd.
"Os ydych chi'n dechrau cyflwyno cyfyngiadau cwarantîn yng Nghymru a yw hynny'n golygu bod yna quid pro quo ac y bydd Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dechrau gwneud yr un peth i drigolion Cymru?
"Mae angen ateb y math yma o gwestiynau cyn allwch chi hyd yn oed ystyried gweithredu cam mor ddramatig."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei fod wedi galw am y fath fesurau ers tro, ac wedi codi'r mater gyda'r prif weinidog fwy nag unwaith.
Dywedodd Adam Price: "Mewn cyfnod lle mae angen ymateb yn fwy cyflym ac yn fwy clyfar i gael gwared a'r feirws, mae'n siomedig bod angen aros am benderfyniad esgeulus Llywodraeth y DU i wrthod cyfyngiadau teithio er mwyn i Lywodraeth Cymru weithredu."
Ymateb Llywodraeth y DU
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydym yn gweithio'n agos ag arweinwyr lleol a thimau iechyd cyhoeddus i wneud penderfyniadau ynghylch ymyriadau lleol, gan ystyried amryw o ffactorau.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr, y JBC (Joint Biosecurity Centre) a Gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG yn monitro lefelau heintiadau ar draws y wlad yn gyson.
"Rydym yn trafod mesurau gyda Chyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus lleol ac awdurdodau lleol, gan adolygu'r dystiolaeth yn gyson ac fe wnawn ni gymryd camau penodol a chyflym ble mae angen."
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, does dim tystiolaeth fod disgyblion yn lledu Covid-19 o fewn ysgolion.
Dywedodd Mr Gething fod heintio "wedi digwydd tu allan i'r ysgol" neu rhwng "oedolion yn gweithio yn yr ysgol", a bod dros "wyth o bob 10 ysgol yng Nghymru heb gael achos coronafeirws" ers dechrau tymor yr hydref.
Mae'n cydnabod heriau gosod disgyblion blwyddyn gyfan mewn ysgolion, oherwydd yr angen i bawb o fewn y grŵp i hunan-ynysu wedi achos Covid-19.
Ond dywedodd fod penaethiaid ac awdurdodau lleol wedi ymdrechu i geisio creu awyrgylch i gyfyngu ar faint y mae pobl yn cymysgu, a sicrhau bod staff yn cadw pellter cymdeithasol.
"Rwy'n gyfforddus mai'r peth cywir i'w wneud," meddai.
"Byddwn yn parhau i wneud popeth posib i sicrhau bod hi'n ddiogel i gadw plant yn yr ysgol... mae'n well i'w hiechyd a'u lles hirdymor iddyn nhw fod yn yr ysgol gyda disgyblion eraill a'u ffrindiau na bod adref am dymor arall o wersi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020