Chwilio'n dod i ben am ddyn ar goll ym Môr Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
RNLI

Mae criwiau achub wedi rhoi'r gorau i chwilio ym Môr Iwerddon am ddyn sydd ar goll o fferi.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau bod criwiau o Brydain ac Iwerddon wedi chwilio ardal o 1,000 milltir sgwâr ers tua 21:00 nos Lun.

Aeth y dyn, sy'n aelod o griw y fferi, ar goll o long oedd yn teithio rhwng Dulyn a Chaergybi.

Cafodd ei weld ddiwethaf rhwng 15:30 a 16:00, a daeth i'r amlwg ei fod ar goll yn ystod y daith.

Roedd criwiau o Gaergybi, Moelfre a Phorthdinllaen wedi bod yn rhan o'r chwilio, yn ogystal â chriwiau Heddlu Gogledd Cymru a Gwylwyr y Glannau Iwerddon.

Erbyn nos Fawrth, dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi dod â'r chwilio i ben, a bod Heddlu'r Gogledd nawr yn trin y digwyddiad fel ymchwiliad i berson sydd ar goll.