'Rhaid cydnabod pwysigrwydd amaeth i'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
defaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cyfrifiad yn dangos bod 43% o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg

Rhaid i gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant amaeth ar ôl Brexit gydnabod "ei bwysigrwydd i ddyfodol y Gymraeg".

Dywed Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts bod angen targedu cymorthdaliadau tuag at helpu ffermydd teuluol i oroesi.

Mae ffigyrau'r Cyfrifiad yn dangos bod 43% o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg, o gymharu â 19% o'r boblogaeth yn gyffredinol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am helpu'r sector i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r iaith.

Roedd Mr Roberts yn ymateb i argymhellion adroddiad diweddar ynglŷn â sut y gall ffermwyr helpu'r llywodraeth i gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Disgrifiad o’r llun,

Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts

Cyn y pandemig, cynhaliodd ymchwilwyr Cyswllt Ffermio weithdai ledled y wlad, gan ymweld â sioeau amaethyddol a'r Eisteddfod Genedlaethol i holi barn.

Dywedodd Eirwen Williams, arweinydd y prosiect, fod y canfyddiadau'n amserol o ystyried bod gweinidogion wrthi'n cynllunio system newydd i gefnogi amaeth, a disodli cymorthdaliadau presennol yr UE.

Y "brif thema", meddai, oedd bod pobl am weld cymorth yn cael ei dargedu tuag at helpu'r rhwydwaith o ffermydd bychain, teuluol drwy Gymru, sy'n chwarae rhan "hanfodol" wrth gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn eu cymunedau.

Roedd 'na ddadlau eu bod yn gwneud hyn drwy alluogi teuluoedd a phobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig, gan gefnogi ysgolion, busnesu a chyfleusterau lleol ac felly cynaliadwyedd hirdymor yr iaith.

"Roedd llawer yn teimlo bod angen selio'r cymorthdaliadau ar y ffarm deuluol, a'r pwysigrwydd o gadw'r ffarm deuluol yn yr ardaloedd gwledig," meddai.

"Achos y mwya' gyd o ffermydd sydd gyda chi y mwya' gyd o siawns sydd gyda chi bod mwy o bobl yna sy'n gallu siarad yr iaith Gymraeg.

"A beth oedden nhw'n teimlo oedd dyle fod yna ryw fath o cap ar y taliadau sy'n mynd i ffermwyr er mwyn annog hynny i ddigwydd yn hytrach na bod ffermydd yn mynd yn fwy ac yn fwy o hyd."

Disgrifiad o’r llun,

Magodd Katie Davies, cadeirydd CFfI Cymru, hyder i siarad Cymraeg trwy weithgareddau'r mudiad

Dywedodd Mr Roberts y byddai'n ysgrifennu at y llywodraeth yn gofyn i gael trafod canfyddiadau'r adroddiad.

"'Da ni'n aml yn sôn am gadarnleoedd daearyddol ond hefyd mae angen i ni gofio pa mor bwysig ydy'r sector amaeth o ran y Gymraeg," meddai.

"Mae 'na bryder yn does oherwydd does neb yn deall yn union be fydd y gyfundrefn cymorthdaliadau. Mae angen i hynny gael ei setlo ac mae angen i ffermydd teuluol fod yn rhan ganolig o unrhyw gyfundrefn. Mae 'na beryg na fydd hynny'n digwydd.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr ei bod yn ymwybodol o effaith ei phenderfyniadau nid yn unig ar ffermydd teuluol eu hunain ond o ran dyfodol yr iaith.

"Dylai ei holl gynllunio ar gyfer bywyd ar ôl Brexit a Covid fod yn gweld y Gymraeg yn ganolig - ac mae dyfodol ffermydd teuluol yn rhan annatod o hynny."

Beth arall sydd yn yr adroddiad?

Mae'r adroddiad yn galw hefyd am newidiadau i'r system gynllunio i helpu cadw pobl ifanc yng nghefn gwlad drwy gefnogi arallgyfeirio ar ffermydd a mentrau gwledig.

Dylid hwyluso'r broses o adeiladu tai newydd ar dir fferm, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r galw am ail gartrefi wedi codi prisiau eiddo.

Mae angen mesurau hefyd, meddai'r adroddiad, i ddiogelu pwysigrwydd hanesyddol enwau llefydd Cymraeg, gan sicrhau bod yr iaith a'r dreftadaeth leol yn parhau i fod yn weladwy i drigolion ac ymwelwyr.

Mae'r mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc yn cael ei ganmol am ei rôl yn cefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, gydag argymhelliad i ffurfioli'r cyllid y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad.

Ffynhonnell y llun, C.Ff.I.Cymru

Dywedodd Katie Davies, cadeirydd CFfI Cymru ei bod yn falch o weld cydnabyddiaeth am waith y sefydliad a dywedodd y byddai cyllid ychwanegol i'w groesawu o ystyried yr anawsterau sydd wedi codi oherwydd y pandemig.

"Rwy'n ddysgwr Cymraeg ac mewn gwirionedd mae mudiad CFfI a'r gymuned amaethyddol yn ehangach wedi cynyddu fy hyder wrth ei siarad yn fwy na dim arall - hyd yn oed yr ysgol," meddai.

Ychwanegodd y dirprwy gadeirydd, Caryl Haf ei bod yn ystyried argymhellion yr adroddiad fel rhai "calonogol iawn".

"Mae 'na dipyn o sialensiau yn wynebu pobl ifanc yng nghefn gwlad - un o'r mwyaf yw gallu fforddio rhywle i fyw gyda phrisiau'n mynd lan bob wythnos."

"Mae'n anodd iawn i feibion a merched fferm i adeiladu tŷ ar dir fferm adre - yn amhosib mewn rhai ardaloedd. Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ddiolchgar i Cyswllt Ffermio a rhanddeiliaid eraill am y gwaith a wnaed ar ran yr adroddiad hwn, a byddwn yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad wrth i ni geisio datblygu ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

"Rydyn ni eisiau helpu ffermwyr wrth iddyn nhw geisio rheoli eu ffermydd a chefnogi anghenion cenedlaethau'r dyfodol, gan gynnwys cynaliadwyedd y Gymraeg."