Treialu dull newydd o drin iechyd meddwl yn y gymuned

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Gorwelion

Mae'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Y Byd, ac mewn canolfan yn Aberystwyth mae dull newydd o drin problemau iechyd meddwl yn y gymuned yn cael ei dreialu.

Bwriad y prosiect yw caniatáu i bobl sy'n diodde' gyfeirio eu hunain am driniaeth heb orfod mynd trwy'r meddyg teulu yn gyntaf.

Y nod yw sicrhau bod triniaeth a chefnogaeth yn gallu cael eu rhoi yn gynt a heb oedi.

Hefyd, mae gan y ganolfan dîm o fentoriaid - sydd wedi goroesi problemau iechyd meddwl eu hunain - sydd ar gael i siarad gyda phobl pan fyddan nhw angen help.

"Mwy o gynhesrwydd"

Mae Gareth Evans, sy'n byw yn Aberystwyth, wedi diodde' problemau iechyd meddwl am ddegawd. Ers pedair blynedd mae wedi bod yn mynd i ganolfan Gorwelion yn y dref, lleoliad y cynllun peilot.

Ers iddyn nhw ddechrau ar y cynllun, mae Gareth wedi gweld gwelliant yn y gwasanaeth ac wedi cael budd o siarad gyda'r mentoriaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Evans yn gwerthfawrogi'r newidiadau yng nghanolfan Gorwelion

"Mae lot o newidiadau wedi bod yn ddiweddar," meddai. "Yn y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n teimlo lot mwy o gynhesrwydd wrth ddod yma. Ac mae na bobl i siarad gyda nhw o hyd - mae hynny'n bwysig.

"Cyn i'r peer mentors ddod yma, o'ch chi jyst yn sefyll yn y stafell a gallwch chi fod yn aros awr, ac mae'n amser hir i aros, ond nawr y'ch chi'n gallu gweld rhywun yn syth. Mae hynny'n dda. Mae'n helpu fi yn fawr iawn.

"Dyw e ddim fel torri'ch coes. Mae iechyd meddwl jyst ddim yn mynd i ffwrdd. Ond 'dw i'n cael lot o support fan hyn."

'Llai o ailadrodd eich stori personol'

Gweledigaeth y cynllun sy'n cael ei dreialu yn Gorwelion yw galluogi pobl i gael help heb orfod gweld meddyg yn gyntaf. Mae'n ddull arbrofol o roi triniaeth yn y gymuned.

Bleddyn Lewis, uwch nyrs iechyd meddwl gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n arwain y prosiect.

Dywedodd: "Gobeithio, yn agos iawn yn y dyfodol, fydd ddim rhaid i unigolyn fynd i weld meddyg teulu cyn cael referral i'r gwasanaeth iechyd meddwl oedolion... [sy'n golygu] dim cymaint o oedi, dim rhaid ailddweud eich stori personol, dim rhaid aros."

Disgrifiad o’r llun,

Bleddyn Lewis yw arweinydd y cynllun peilot

Cyn dechrau'r pandemig Covid-19, fel rhan o'r cynllun peilot roedd pobl yn cael cerdded mewn i Gorwelion heb apwyntiad. Cyfeirio eu hunain i bob pwrpas am driniaeth iechyd meddwl.

Oherwydd cyfyngiadau Covid, mae'n rhaid trefnu apwyntiad nawr. Gobaith y mentoriaid, fel Ann Edwards, yw y bydd y polisi drws agored yn gallu dychwelyd yn y dyfodol, ac y bydd y ganolfan ar agor bob awr o'r dydd.

Dywedodd Ann, sydd wedi dod trwy broblemau iechyd meddwl ei hun yn y gorffennol: "Mae'n rhaid iddo fe ailagor eto, ac mae'n rhaid bod yr arian yn y gwasanaeth fel bod ni'n gallu bod ar agor 24/7.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mentoriaid fel Ann Edwards yn deall yr hyn mae dioddefwyr yn mynd trwyddo

"Pan o'n i'n sâl doedd neb ar gael am ddau o'r gloch y bore. Nawr, mae peer mentor fan hyn bob dydd tan 6 o'r gloch y nos o leia'.

"Wrth gwrs mae Covid wedi stopio pethau nawr ac mae pobl dim ond yn dod mewn ar gyfer appointments gyda'i nyrs nhw, ond ni'n siarad gyda nhw tra bod nhw'n aros.

"Ond tase rhywun yn dod i'r drws a bod nhw wir angen ffrind a rhywun jyst i fod yna fel eu bod nhw'n teimlo'n saff, bydden ni'n gwneud pwynt o wneud yn siŵr bod rhywun yn gallu edrych ar ôl nhw."

Mae arbenigwyr ar gael i roi triniaeth feddygol mewn argyfwng. Ond mae'r mentoriaid - sy'n bobl sy' wedi goroesi problemau eu hunain - yn gallu atal pethau rhag gwaethygu trwy siarad, fel y dywedodd Ann Edwards.

"Pan o'n i'n cael crisis fi doedd e byth Monday to Friday, 9 to 5 - roedd e'n digwydd am 2 neu 3 o'r gloch y bore, pan doedd neb ar gael.

"Fydden i ddim wedi cyrraedd y pwynt o drio lladd fy hunain, neu meddwi gymaint do'n i ddim gwybod lle o'n i.

"Tase rhywun ar gael fan hyn i fi gael siarad â nhw ar y pryd, wi'n siŵr byddai fe wedi gwneud gwahaniaeth."