Byw drwy Covid: Yr ofnau a'r gobeithion yn Llanbed
- Cyhoeddwyd
Wrth i fwy o ardaloedd yng Nghymru wyneb cyfyngiadau yn sgil twf Covid 19 mae Ceredigion yn dal heb unrhyw reolau clo.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar effaith Covid-19 ar gymunedau gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan.
Rydym ni eisoes wedi clywed am yr effaith ar fusnesau'r dref, ond beth am obeithion a phryderon rhai o gymeriadau'r ardal?
Mari Grug aeth 'nôl i'r dref.
Ac eithrio ambell siwrne i Lanbed i siopa bwyd, mae Hazel Thomas wedi bod adref yn ystod y cyfnod.
Dydy hi heb fentro allan o Geredigion ers dechrau'r pandemig chwaith.
Yn byw ar ei phen ei hun, mae'n paratoi am aeaf "anodd a chaled iawn".
Trwy ei gwaith gyda Merched y Wawr, mae'n cefnogi sawl un tebyg, ac mae'n poeni'n arw am y misoedd nesaf.
'Gaeaf caled'
"Fel rhywun sy'n byw ar ben fy hun, mae costau yn mynd i fynd yn uwch nawr o ran cadw'r cartref yn wresog," meddai.
"Dwi'n meddwl bod y gaeaf yn mynd i fod yn un caled, anodd iawn i ni gyd.
"Mae'r Nadolig yn arbennig iawn i fi achos dyna pryd mae'r teulu yn dod at ei gilydd.
"Mae'r ferch yn gweithio yn y Swistir a dwi'm yn gweld hi'n dod adref. Falle daw'r mab ond mae e'n byw yn Abertawe, sy' dan glo ar hyn o bryd.
"Does dim syniad gyda ni tan pryd bydd hynny'n bodoli a falle fyddai wrth fy hunan."
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann wedi addasu i gefnogi'r gymuned yn ystod cyfnod Covid-19, gyda'r ddarpariaeth ar-lein yn chwarae rhan bwysig.
Byddai'r clwb wedi dathlu 60 mlynedd o fodolaeth eleni.
'Colli mas'
I Sara Elan Jones, sy'n 17 oed ac yn aelod o'r clwb, mae'r genhedlaeth ifanc yn gweld eisiau'r cymdeithasu cymaint â'r genhedlaeth hŷn.
"Fi'n credu taw'r elfen gymdeithasol mae pobl ifanc wedi colli mas arno fe fwyaf, ond hefyd ni'n deall bod rhaid i hwn wella a ni'n gobeithio bydd pawb yn well o ran pobl sydd wedi dioddef o'r Covid," meddai.
"O ran nawr, dwi'n credu bydd rhaid ni gario 'mlaen 'da popeth dros Zoom, ond gobeithio bydd rhyw amser lle gallwn ni gyd fynd 'nôl i'r normal newydd."
'Ail glo yn peri gofid'
Mae gwefan Ystadegau Cymru yn dangos bod gan Lanbedr Pont Steffan boblogaeth fach iawn.
Mae canran uchel o'r bobl sy'n byw yno rhwng 16 a 24 oed, gyda nifer uwch wedyn dros 75 oed.
Yn un o'r rheiny fu'n cysgodi, ar y cyfle cyntaf, aeth Janet Evans allan i'r dref unwaith eto.
"Dwi'n methu'r canu - chi methu canu yn y capel nawr chi'n gweld," meddai.
"O'n i hefyd wedi ymuno â chôr Bytholwyrdd ac o'n i'n cael llawer o hwyl. Dwi'n colli hwnna'n enfawr.
"Mae ail glo yn peri gofid, ond ni'n ffodus bod ni'n byw yn ble y'n ni a bod digon o gymdogion a ffrindiau da yn gallu dod i helpu."
Mae rhai felly'n dymuno i fisoedd y gaeaf frysio heibio, wrth i drigolion Llanbedr Pont Steffan baratoi am gyfnod posib arall o gyfyngiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020