Bygythiad i swyddi gweithwyr siopau Peacocks

  • Cyhoeddwyd
PeacocksFfynhonnell y llun, Google

Mae cwmni Edinburgh Woollen Mill, sydd yn berchen ar siopau Peacocks a chwmni dillad Jaeger, yn dweud ei fod yn bwriadu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr mewn ymgais i achub y busnes.

Mae 47 o siopau Peacocks ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â llond dwrn o siopau Edinburgh Woollen Mill.

Drwy Brydain mae pryder am ddyfodol 24,000 o swyddi i gyd, ond nid oes manylion eto am ba siopau fyddai'n cael eu heffeithio gan unrhyw ailstrwythuro.

"Fel pob man-werthwr, mae'r saith mis diwethaf wedi bod yn hynod o anodd", meddai prif weithredwr Edinburgh Woollen Mill, Steve Simpson.

Bydd y cwmni'n parhau i fasnachu tra bod adolygiad o'r busnes yn cael ei gynnal.

Dywed y cwmni ei fod wedi cael "nifer o ymholiadau o ddiddordeb ar gyfer gwahanol rannau o'r grŵp" y bydd yn eu hystyried.

Mae gan Edinburgh Woollen Mill, sydd yn eiddo i'r biliwnydd Philip Day, 1,100 o siopau dan wahanol enwau masnachu, gan gynnwys Austin Reed.

Ni fydd siopau Bonmarché y cwmni yn cael eu heffeithio yn dilyn y cyhoeddiad am yr adolygiad ddydd Gwener.