Cynghorau Cymru i allu dirwyo am barcio ar bafin o 2022
- Cyhoeddwyd
![parcio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F629/production/_114871036_parcioarbafin.jpg)
Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi'r pwerau i gynghorau lleol ddirwyo pobl sy'n parcio ar balmentydd.
Yn dilyn adolygiad, fe fydd gweinidogion yn cefnogi argymhellion grŵp o arbenigwyr annibynnol i roi pwerau gorfodi sifil newydd i awdurdodau lleol allu dirwyo pobl sy'n cam-barcio.
"Nid yw'r gyfraith fel ag y mae hi mor glir ag y dylai fod," meddai'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Lee Waters AS, a sefydlodd y tasglu.
"Nid oes y fath drosedd â pharcio ar bafin, ac er bod yr heddlu yn cael defnyddio'r drosedd bresennol o 'greu rhwystr diangen ar ran o'r briffordd', anaml iawn y gwnân nhw hynny."
Gwrthododd y Tasglu ar Barcio ar Balmentydd ddilyn trywydd Yr Alban o osod gwaharddiad llwyr a fydd yn cymryd pum mlynedd i'w roi ar waith, am ei fod yn rhy araf a chymhleth.
Yn lle hynny, y bwriad yw rhoi'r grym i awdurdodau lleol allu gweithredu o fis Gorffennaf 2022.
Newydd ddechrau ymgynghori ar y mater y mae Llywodraeth y DU ar gyfer taclo'r broblem yn Lloegr.
Ychwanegodd Mr Waters: "Rydym am i fwy o bobl gerdded teithiau byr ond eto, rydyn ni'n fodlon goddef amodau sy'n ei gwneud hi'n anodd i gerddwyr. Mae gormod o lwybrau'n llawn annibendod neu wedi'u blocio.
"Yn ôl arolwg diweddar, roedd 83% o bobl Cymru'n gweld hyn yn broblem go iawn.
"Ry'n ni'n cydnabod bod gormod o geir mewn rhai strydoedd o'u cymharu â'r lleoedd sydd ar gael a dydyn ni ddim am gosbi pobl sydd heb ddewis.
"Ond rydym am i gynghorau allu canolbwyntio ar yr ardaloedd lle mae'r broblem yn fawr ac ymateb yn ôl yr amgylchiadau lleol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 10 argymhelliad Tasglu Cymru ar Barcio ar Balmentydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019