Pentref gwyliau Bluestone i ehangu ar gost o £15m
- Cyhoeddwyd
Mae pentref gwyliau Bluestone yn Sir Benfro yn gobeithio codi 80 o gabanau llety newydd wrth i fwy o bobl dreulio gwyliau yn y DU.
Bwriad y ganolfan wyliau ger Arberth yw gwario £15m ar y safle 500 erw.
Maen nhw'n gobeithio y bydd 250 o swyddi yn cael eu creu wrth i'r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen a 90 swydd yn rhagor pan fydd y ganolfan yn barod.
Mae yna ddarogan y bydd gwariant yn yr ardal gyfagos yn cynyddu £1m y flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae'r cynlluniau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae'r ganolfan yn cyflogi dros 700 o bobl ac yn 2019 dywed llefarydd iddi groesawu 155,000 o ymwelwyr.
Dywedodd pennaeth prosiectau Bluestone Liz Weedon: "Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb; ry'n yn falch ein bod wedi'n lleoli yn Sir Benfro ac yn gweld y gall y sir elwa wrth i bobl dreulio gwyliau yn lleol."
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro wedi rhoi caniatâd cynllunio i Bluestone droi melin hanesyddol gerllaw yn fwyty ar gyfer 160 o bobl.
Yn wreiddiol roedd y cwmni wedi gobeithio addasu Melin Pwll Du yn atyniad treftadaeth gyda rheilffordd stêm gul ond fe gafodd y cynlluniau eu gwrthod gan yr awdurdod yn 2017 wedi nifer o wrthwynebiadau.
Mae disgwyl i'r gwaith o adfer yr adeilad ddechrau yn fuan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2017