Becws yn bwriadu diswyddo tua 60 o weithwyr
- Cyhoeddwyd
Dywed cadwyn Jenkins Bakery y bydd yn rhaid diswyddo tua 60 o weithwyr wrth i'r cwmni ailstrwythuro.
Roedd y cwmni o Lanelli, sydd â 30 o siopau yn y de, wedi cyhoeddi na fyddai pedair o'u siopau yn ailagor.
Mewn llythyr at y gweithlu, maen nhw nawr wedi cadarnhau y byddan nhw'n ailstrwythuro'r busnes, ac yn lleihau'r gweithlu o 300 yn y broses.
Cafodd y cwmni teuluol ei sefydlu yn y dref yn 1921.
'Llai o gwsmeriaid'
Dywedodd y rheolwr cyffredinol Richard Mynott mewn llythyr at y gweithwyr: "Dyw'r penderfyniad hwn heb ei gymryd yn ysgafn, ac mae wedi ei wneud ar ôl ystyried pop opsiwn posib.
"Daw oherwydd bod llawer llai o gwsmeriaid ers ailagor, a gostyngiad yn y gwerthiant, ac mae'n rhaid i'r busnes nawr weithredu er mwyn sicrhau ein bod yn goroesi.
"Rydym yn rhagweld y bydd tua 60 o swyddi yn cael eu colli yn y 26 o safleoedd fydd yn parhau yn weithredol."
Dywed y cwmni y byddant nawr yn dechrau'r broses o ymgynghori gyda'r gweithlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020