Y Bencampwriaeth: Preston North End 0-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Sheyi OjoFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ergyd nerthol Sheyi Ojo yn uchafbwynt prin mewn gêm ddi-fflach

Roedd gôl gan Sheyi Ojo yn ddigon i roi buddugoliaeth i Gaerdydd oddi cartref yn Preston yn y Bencampwriaeth ddydd Sul.

Sgoriodd Ojo - ar fenthyg o Lerpwl - gôl wych ar ôl gwrth-ymosodiad a gwaith da gan y cawr, Kieffer Moore.

Roedd Cymro arall, Harry Wilson yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r Adar Gleision yn dilyn ei drosglwyddiad - o Lerpwl hefyd - ar fenthyg.

Mae'r canlyniad yn codi Caerdydd i 12fed yn y gynghrair gyda saith pwynt wedi pum gêm.