'Angen gostyngiad TAW i salonau er mwyn goroesi'

  • Cyhoeddwyd
Salon trin gwalltFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y diwydiant harddwch ymysg yr olaf i ailagor wedi'r cyfnod clo cyntaf

Mae angen ymestyn y toriad ar Dreth ar Werth sydd ar hyn o bryd ar gael i'r sector lletygarwch, i'r sector harddwch, yn ôl Aelod Seneddol o Gymru.

Dywedodd Carolyn Harris, AS Llafur Dwyrain Abertawe, ei bod yn ofni y bydd llawer o fusnesau harddwch "yn diflannu cyn y Nadolig" heb fwy o gefnogaeth.

Mae perchennog siop harddwch yn Aberystwyth wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw bod salonau harddwch a siopau trin gwallt "wedi cael eu hanghofio".

Dywedodd y Trysorlys y bydd eu Cynllun Economi'r Gaeaf yn sicrhau bod cefnogaeth i'r sector yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carolyn Harris AS yn dweud ei bod yn pryderu y gallai nifer o fusnesau harddwch fynd i'r wal

Ym mis Gorffennaf cafodd toriad dros dro i TAW o 20% i 5% ei gyflwyno i'r sector twristiaeth a lletygarwch, ac erbyn hyn mae hwnnw wedi'i ymestyn hyd at 31 Mawrth 2021.

Ond mae Ms Harris, cadeirydd grŵp trawsbleidiol Senedd San Steffan ar harddwch, estheteg a lles, wedi dweud bod angen ymestyn y cynllun i'r sector harddwch.

"Mae'n rhaid i ni ddechrau meddwl am hyn fel cyfrannwr gwirioneddol iawn i'r economi, cyflogwr enfawr - mae wir angen iddyn nhw gael y gefnogaeth y mae sectorau eraill wedi'i chael," meddai.

Ychwanegodd Ms Harris er y byddai'r cyfnod clo byr yn "rhwystredig" i'r rhai yn y sector, mai dyma yw "y ffordd orau i geisio atal cyfnod clo cenedlaethol pellach, estynedig, dros fisoedd y gaeaf".

Ffynhonnell y llun, Lisa Wyn Morgan/Harddwch Siriol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa Wyn Morgan wedi rhedeg ei chwmni Harddwch Siriol yn Bow Street ers 2014

O dan y cyfnod clo byr fydd yn dechrau ddydd Gwener, bydd rhaid i wasanaethau lle mae angen gweithio'n agos at y cleient, fel trinwyr gwallt a salonau harddwch, gau tan ddydd Llun 9 Tachwedd.

Dywedodd Lisa Wyn Morgan, perchennog Harddwch Siriol yn Bow Street, Aberystwyth y byddai hi'n croesawu unrhyw ymgais i sicrhau tegwch i'r diwydiant.

"Rwy'n credu bod y salonau harddwch a siopau trin gwallt wedi cael eu hanghofio," meddai.

"Roedd tafarndai a bwytai wedi gweld budd y cynllun 'Bwyta Allan i Helpu Allan' ym mis Awst, ac ro'dd hynny o gymorth mawr i'r diwydiant yna. Ond doedd dim byd tebyg i ni.

"Cofiwch hefyd mai ni oedd un o'r sectorau olaf i gael ailagor wedi'r cyfnod clo estynedig, ac fel arfer misoedd yr haf fyddai gyda'r prysuraf i ni.

"Gan ein bod ni wedi gorfod aros ar gau cyhyd fe gollon ni mas lot, a dydyn ni ddim yn gallu neud lan am hynny dros fisoedd yr hydref achos dyna pryd ydyn ni fel arfer ar ein tawela'.

"Byddai cael y gostyngiad yn y TAW yn gwneud gwahaniaeth mawr, achos mae fy mil PPE i dros £100 y mis fel mae hi, a dwi eisoes wedi gorfod lleihau nifer fy apwyntiadau er mwyn glanhau rhwng pob un, felly mae pob ceiniog yn cyfrif."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai pob cwmni sy'n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach yn derbyn taliad o £1,000, a bydd cwmnïau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig sy'n gorfod cau yn cael taliad o hyd at £5,000 - gyda grantiau ychwanegol ar gyfer cwmnïau sy'n ei chael hi'n anodd.

Dywedodd Ms Morgan y byddai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach yn "ddefnyddiol", ond ychwanegodd mai'r peth gorau i bawb yw os fydden nhw wedi cael aros ar agor yn ystod y cyfnod clo byr newydd.

"O ran glendid, rydyn ni wedi dilyn pob rheol, dwi wedi sicrhau fy mod i wedi pasio profion hylendid ychwanegol ac wedi buddsoddi yn yr holl offer PPE.

"Felly dwi'n teimlo'n hyderus fy mod i, a ni fel y diwydiant, wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i fod yn ddiogel. Nawr ry'n ni jest ishe ychydig bach o help i wneud yn siŵr y byddwn ni'n gallu dod drwy'r cyfnod yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i salonau gwallt a harddwch gau o ddydd Gwener yma nes 9 Tachwedd

Mewn llythyr at y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf dywedodd Ms Harris fod y sector wedi cyfrannu bron i £8bn i economi'r DU, ac yn cyflogi 370,000 o bobl.

Ers yr haf mae Ms Harris yn dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu.

"Rwy'n poeni'n fawr y bydd llawer ohonyn nhw wedi mynd i'r wal cyn y Nadolig," meddai.

"Oni bai ein bod ni'n dechrau sicrhau eu bod nhw'n cael eu gwarchod, bydd yn rhaid iddyn nhw feddwl am ddiswyddiadau, neu gau.

"Beth am roi'r gefnogaeth honno iddyn nhw nawr iddyn nhw allu dal ati, fel eu bod nhw'n hyfyw pan ddaw hyn i gyd i ben a'u bod nhw'n gallu ailagor yn llawn."

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys eu bod yn adolygu'r holl drethi, gan ychwanegu: "Rydyn ni wedi cefnogi'r sector harddwch o'r dechrau, gan amddiffyn swyddi trwy ohirio ardrethi busnes, ein cynlluniau cymorth incwm, gohirio TAW a grantiau arian parod o hyd at £25,000.

"Bydd ein Cynllun Economi Gaeaf yn sicrhau bod hyn yn parhau yn y misoedd anodd i ddod."