Dyblu'r arian i helpu busnesau ymdopi â'r cyfnod clo byr

  • Cyhoeddwyd
Merched yn ymarfer mewn campfaFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae campfeydd yn gorfod cau dros dro o nos Wener ymlaen, wythnosau yn unig ar ôl cael dechrau ailagor

Mae Llywodraeth Cymru wedi "dyblu" ei Chronfa Gwydnwch Economaidd i helpu busnesau sy'n dal i deimlo effeithiau Covid-19, yn ôl Gweinidog yr Economi.

Dywedodd Ken Skates bod £150m yn cael ei ychwanegu i'r gronfa, sy'n golygu bod "bron i £300m o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i gefnogi busnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfnod clo byr".

Yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth, fe gadarnhaodd fod busnesau anhanfodol yn gorfod cau pan ddaw'r "toriad tân" 17 diwrnod i rym ar draws Cymru nos Wener.

Nod yr arian yw helpu "cyflogwyr bach a chanolig" a busnesau "yn y sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy'n gorfod cau'u drysau dros y cyfnod atal byr".

Taliadau a grantiau

Dywed Mr Skates y bydd yr £150m ychwanegol "yn mynd yn syth i goffrau busnesau Cymru i'w helpu i dalu eu biliau ac i wrthsefyll yr wythnosau a'r misoedd anodd o'n blaenau".

Mae'r pecyn diweddaraf yn cynnwys:

  • Taliadau o£1,000 i fusnesau bach â gwerth ardrethol hyd at £12,000;

  • Taliadau hyd at £5,000 i fusnesau adwerthu, lletygarwch a hamdden sy'n gorfod cau, ac sydd â gwerth ardrethol hyd at £50,000;

  • Grant o £2,000 i fusnesau sy'n gorfod cau dros y cyfnod atal byr neu wedi'u heffeithio o ganlyniad iddo;

  • Grant arall o £1,000 i fusnesau y cafodd y cyfyngiadau lleol effaith faterol arnynt am 21 niwrnod neu fwy cyn dechrau'r cyfnod atal byr.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond siopau sy'n gwerthu nwyddau hanfodol sy'n cael aros ar agor rhwng nos Wener a 9 Tachwedd

Gan gyfeirio at bryderon ynghylch cau busnesau nad sy'n hanfodol, dywedodd Mr Skates fod "gwneud dim ddim yn opsiwn", a bod Llywodraeth Cymru'n "gweithio'n ddiflino i gefnogi ein heconomi drwy'r argyfwng yma ac i warchod swyddi".

"Oni bai ein bod yn gweithredu rŵan gyda thoriad tân o bythefnos, mae yna bosibilrwydd gwirioneddol y byddai ein GIG yn cael ei lethu, ac fe allwn ni weld niferoedd uwch fyth o bobl yn marw gyda coronafeirws y gaeaf yma".

Ychwanegodd y byddai cyflwyno mesurau am y pythefnos nawr "yn rhoi'r posibilrwydd orau i fanwerthwyr gael cyfnod Nadolig llewyrchus".

"Mae yna lawer o rannau o'r economi, mae yna lawer o weithgareddau, sydd, os cânt eu stopio, os cânt eu cau, ddim ond yn cyfrannu ychydig at ostwng y rhif R hwnnw, ond i gyd, gyda'i gilydd, mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol.

"Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl ym maes manwerthu yn dymuno cael cyfnod byr o bythefnos o gau os, yn gyfnewid, eu bod yn cael cyfnod hirach o sicrwydd", meddai.

'Gweithwyr allweddol a theithiau hanfodol'

Dywedodd Mr Skates fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru a chwmnïau bws "gynnal llai o wasanaethau, yn enwedig y tu hwnt i'r oriau brig er mwyn "tanlinellu'r neges arhoswch adref" drwy'r cyfnod clo byr.

Roedd yn cydnabod, meddai, cymhlethdod gwneud hynny, ac yn gwerthfawrogi ymdrechion pawb sy'n gweithio yn y sector trafnidiaeth wrth gyflwyno mesurau tymor byr.

"Bydd gwasanaethau'n debyg i'r rhai ym mis Awst a bydd yn cael ei gyflawni trwy ganslo teithiau a newidiadau i amserlenni," dywedodd.

"Mae'n hollbwysig i ddiogelu'r capasiti sy'n weddill ar gyfer gweithwyr allweddol a theithiau hanfodol.

"Dylai pobl sy'n gorfod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ddarllen y cyngor yn ofalus a gwirio'n uniongyrchol gyda'r gweithredwyr cyn teithio.

"Bydd bysiau a threnau sy'n cael eu defnyddio gan ddisgyblion i fynd i'r ysgol a'r rheiny sy'n croesi'r ffin i Loegr ble mae'r cyfyngiadau presennol yn wahanol, yn cael eu gwarchod."