Rhyddhau'r rheithgor yn achos twyll Siop y Pentan

  • Cyhoeddwyd
Siop y Pentan

Mae'r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o gymryd tua £12,000 o Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin drwy dwyll wedi cael eu rhyddhau o'u dyletswyddau.

Mae Emyr Edwards yn gwadu 11 cyhuddiad o gamddefnyddio ei safle i dalu arian y busnes iddo'i hun, ei frawd a busnes arall yn 2017 a 2018.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Edwards wedi cyflawni twyll gwerth oddeutu £12,000.

Dywedodd y barnwr Mr Geraint Walters wrth y rheithgor fod yn rhaid i'r achos gael ei atal oherwydd rhesymau cyfreithiol.

"Fe fydd yn rhaid i'r achos gael ei ystyried gan reithgor arall, rhywbryd arall," meddai.

Mae disgwyl y bydd y gwrandawiad nesaf yn dechrau fore Llun.