Dim esboniad yn achos gwrthdrawiad angheuol dawnsiwr

  • Cyhoeddwyd
James Joseph Agar-LeighFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd James Joseph Agar-Leigh wedi perfformio yn West End Llundain

Mae cwest wedi clywed fod dim esboniad beth oedd achos gwrthdrawiad a laddodd dawnsiwr, coreograffydd ac athro o'r Rhyl.

Roedd James Joseph Agar-Leigh, 36, wedi rhannu'r un llwyfannau ag enwogion fel Cher, George Michael, Diana Ross, Kylie Minogue a Lionel Richie, dawnsio i'r teulu brenhinol ac ymddangos ar y teledu.

Bu farw fis Rhagfyr y llynedd wedi i'w gar Vauxhall Vectra adael yr A55 yn ardal Llaneurgain.

Cofnododd y cwest yn Rhuthun gasgliad o farwolaeth yn sgil gwrthdrawiad ffordd.

'Colled anferthol, anffodus'

Dywedodd y crwner John Gittins wrth ei deulu: "Does dim tystiolaeth all egluro pam ddigwyddodd hyn.

"Fe ddigwyddodd, ac yn anffodus mi wn i chi gael colled anferthol."

Roedd Mr Agar-Leigh, oedd yn cael ei alw'n JJ, yn dychwelyd o Fanceinion ar ôl siopa ar gyfer y Nadolig pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad nos Sul, 1 Rhagfyr.

Roedd ei gar wedi bod yn teithio ar oddeutu 65 mya pan wyrodd allan o reolaeth, troi drosodd, taro postyn concrid a glanio mewn ffos.

Mewn teyrnged ar y pryd, dywedodd ei ŵr, Christopher Agar-Leigh mai "fo oedd fy mywyd a fy myd".

Dywedodd ei deulu ei fod wedi perfformio yn y West End a rhedeg ysgol ddawns, gan "ddod â dim byd ond llawenydd".