Y Bencampwriaeth: Derby County 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
DerbyFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd Caerdydd i sicrhau gêm gyfartal ar eu hymweliad â Pride Park nos Fercher.

Martyn Waghorn aeth a'r tîm cartref ar y blaen, a hynny o gic rydd ar ôl 24 o funudau, yn dilyn trosedd gan Joe Ralls.

Ond yr Adar Gleision oedd yn berchen ar y meddiant am gyfnodau hir, a bu'n rhaid i'r tîm o'r brifddinas fod yn amyneddgar yn yr ail hanner.

Cafodd eu hamynedd ei wobrwyo yn y pen draw, gyda Kieffer Moore yn sgorio wedi 77 o funudau.

Mae Caerdydd yn wrthwynebwyr anodd i'w curo ar eu teithiau oddi cartref - a hon oedd eu pumed gêm o'r bron heb golli.

Fe fydd Neil Harris yn fodlon gyda phwynt, er fod yr Adar Gleision wedi methu dau gyfle euraid i fynd ar y blaen.