Ap ymchwil dementia yn defnyddio technegau Tinder

  • Cyhoeddwyd
MRI brain scansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall ap newydd arwain y ffordd i ymchwil gwell mewn i ddementia

Mae technoleg newydd yn cymryd ysbrydoliaeth o apiau dêtio i helpu gydag ymchwil i ddementia.

Fel yr ap dêtio Tinder, mae'r dechnoleg ddiweddaraf yn defnyddio'r un egwyddorion o sweipio i'r dde ac i'r chwith ar eich ffôn symudol wrth edrych ar sganiau o'r ymennydd.

Bwriad defnyddio'r dechnoleg yw gwella ansawdd sganiau sy'n cael eu defnyddio i ymchwilio mewn i sawl salwch fel dementia.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi benthyg y syniad o apiau dêtio poblogaidd er mwyn hyfforddi gwirfoddolwyr sy'n defnyddio ap o'r enw Neuroswipe i ddod o hyd i sganiau o'r ymennydd o ansawdd isel.

Mae'n golygu bod modd dewis a dethol miloedd o sganiau yn gyflym.

Didoli symudiadau'r ymennydd

Dywedodd Dr Judith Harrison o Ganolfan Ymchwil yr Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd (Cubric): "Mae'r llygaid dynol yn sensitif iawn i fân wahaniaethau rhwng maint, siâp, lliw ac edrychiad lluniau, felly dyna pam roeddwn ni eisiau i'r cyhoedd gymryd rhan."

"Ni'n gwybod bod canran uchel o'r boblogaeth yn sweipio trwy luniau yn ddyddiol, er enghraifft pan maen nhw'n defnyddio apiau dêtio, felly o'n i'n wyndran os fyddai'r un egwyddorion yn gallu cael eu defnyddio i wahaniaethu rhwng sganiau'r ymennydd."

Mae gwyddonwyr yn aml yn defnyddio sganiau arbenigol i ddeall beth sy'n digwydd mewn ymennydd rhywun sy'n dioddef o Alzheimer's neu gyflwr iechyd meddwl fel schizophrenia.

Mae'r sganiau'n gallu didoli symudiadau'r ymennydd wrth i gelloedd anfon negeseuon i rannau arall o'r ymennydd, a dod o hyd i ble mae'r signalau ddim yn gweithio.

Ffynhonnell y llun, Cardiff University
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'r ap Neuroswipe dal yn ei ddyddiau cynnar ac ond ar gael fel ap ar y we ar hyn o bryd

Ond nad yw'r sganiau wastad o safon dda, er enghraifft, gall cleifion symud tra bod sgan yn cael ei gymryd.

O ganlyniad, dydy pob sgan ddim yr un mor ddefnyddiol.

Oherwydd bod sganiau'r ymennydd yn gymhleth, mae'n gallu cymryd arbenigwr oriau i edrych trwy bob un sgan ac ystyried os yw'r ansawdd yn ddigon dda neu beidio.

Dyna pam mae'r ap newydd sydd wedi cael ei ddatblygu gan y brifysgol ac Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ddefnyddiol.

Mae'r ap Neuroswipe yn dysgu defnyddwyr i ddethol sganiau o ansawdd da yn gyflym - ac i wrthod sganiau o ansawdd llai - trwy sweipio i'r dde neu i'r chwith.

Trwy ddefnyddio sganiau go iawn o ymennydd claf sy'n dioddef o Alzheimer's, mae'r rheiny sy'n defnyddio'r ap yn edrych ar fwndel o nerfau wedi'u lleoli'n ddwfn yn yr ymennydd o'r enw'r fornix.

Pwrpas yr ap yw hyfforddi defnyddwyr i adnabod os ydy siâp y fornix ar y sganiau yn gywir neu beidio.

Mae'r ap, a gafodd ei ddatblygu gydag arian o'r Wellcome Trust, dal yn nyddiau cynnar ei ddatblygiad, ond mae'r brifysgol yn awyddus i gael aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan.