Gwynt a glaw yn parhau dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gymru barhau i wynebu penwythnos gwlyb a gwyntog, yn ôl y rhagolygon tywydd.
Bellach mae rhybudd melyn o law mewn grym ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru ag eithrio Sir y Fflint, a bydd yn parhau nes 0800 fore Llun.
Mae disgwyl tua 30mm (1.2 modfedd) o law, gyda hyd at dair gwaith hynny ar dir uchel.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dros 30 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd, ac un rhybudd llifogydd ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy o Langollen i ardal Wrecsam.
Daw hynny yn dilyn tywydd garw ddydd Sadwrn hefyd, pan oedd rhybudd gwynt mewn grym wrth i Storm Aiden chwythu ar draws Môr Iwerddon.
Cafodd ffordd yr M48 Pont Hafren ei chau i gerbydau, gyda cherbydau hefyd yn cael eu dargyfeirio ar Bont Tywysog Cymru ar yr M4 rhwng Cymru a Lloegr.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai teithwyr ddisgwyl oedi oherwydd y glaw, ac y gallai llifogydd neu doriadau pŵer hefyd effeithio ar rai ardaloedd.
Mae disgwyl mai ardaloedd y gogledd-orllewin fydd yn cael y glaw trymaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru bod angen i bobl edrych ar y rhybuddion llifogydd diweddaraf.
"Bydd ein gweithwyr brys yn cadw golwg ar amddiffynfeydd ac yn sicrhau bod cwteri a ffosydd yn glir er mwyn atal llifogydd i dai ac eiddo ac er mwyn cadw pobl yn ddiogel," meddai.