Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-0 Barnsley

  • Cyhoeddwyd
Harry WilsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Harry Wilson gôl gelfydd o 20 llath i goroni noson dda i Gaerdydd

Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Gaerdydd yn erbyn Barnsley yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Enillodd yr Adar Gleision am y tro cyntaf mewn gêm gartref y tymor hwn - o 3-0.

Junior Hoilett roddodd y tîm cartref ar y blaen, cyn i Joe Ralls ddyblu'r fantais gyda chic o'r smotyn cyn yr egwyl.

Harry Wilson, a enillodd y gic o'r smotyn, sgoriodd y drydedd i godi tîm Neil Harris i 11eg yn y tabl.