Tri o'r un teulu wedi marw o Covid yn Nhreorci
- Cyhoeddwyd
Mae tri aelod o'r un teulu yn Nhreorci yn y Rhondda wedi marw o Covid-19 o fewn dyddiau i'w gilydd.
Bu farw Gladys Lewis a oedd yn 74 oed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddydd Iau, 29 Hydref. Y diwrnod canlynol bu farw ei mab Dean adref yn Nhreorci a ddechrau'r wythnos hon bu farw ei frawd Darren Lewis.
Roedd y tri ohonynt yn byw yn yr un bloc o fflatiau yn Nhreorci. Mae aelodau eraill o'r teulu yn hunan-ynysu.
'Ddim yn ymdopi'
Dywed Claire Lewis, gweddw Dean bod y teulu yn cael trafferth ymdopi gyda'r hyn sydd wedi digwydd. Ychwanegodd bod y teulu wedi bod yn hynod ofalus oherwydd oedran Gladys a'i gŵr David, sy'n 81 oed, a bod Darren yn byw gyda chyflwr Downs.
Mae dau o blant Claire Lewis wedi cael prawf positif o'r haint ac mae trydydd yn dangos symptomau.
"Mae'n anodd delio â'r galar tra'n hunan-ynysu," meddai.
Dywedodd hefyd nad yw ei thad-yng-nghyfraith yn gallu ymdopi â marwolaeth ei wraig a'i ddau fab a'i fod e'n dweud y dylai fe fod wedi cael ei gipio gan yr haint yn hytrach na nhw.
'Pobl ddim yn deall y niwed'
"Mae'n rhwystredig," ychwanegodd Claire Lewis, "nad yw pobl yn cymryd yr haint o ddifrif drwy beidio dilyn y rheolau a dyw eraill ddim yn deall faint o niwed y gall yr haint ei achosi."
Mae tudalen i godi arian i dalu am yr angladdau wedi cael ei sefydlu. Y tebyg yw y byddant yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn ystod y mis gyda dim ond 30 yn bresennol oherwydd cyfyngiadau Covid.
Dywed Ms Lewis ei bod yn hynod o ddiolchgar i'r gymuned leol ond ei bod yn anodd ymdopi heb gymorth aelodau eraill o'r teulu.
Yn Rhondda Cynon Taf mae 553 o bob 100,000 o bobl wedi cael prawf positif gan roi'r sir yn safle rhif naw o ran yr ardaloedd sy'n dioddef waethaf yn y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020