Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Bristol City

  • Cyhoeddwyd
BrysteFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Chris Martin yn dathlu ei gôl i Bristol City yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Colli o gôl i ddim oedd hanes Caerdydd yn erbyn Bristol City yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Fe ddechreuodd y gêm yn wael i'r Adar Gleision, gyda'r ymwelwyr yn sgorio gyda chwta dau funud yn unig ar y cloc.

Chris Martin sgoriodd i Bristol City yn dilyn croesiad isel o'r dde gan Antoine Semenyo. Hon oedd gôl gyntaf Martin i'w glwb yn y Bencampwriaeth.

Fe frwydrodd Caerdydd yn ôl yn araf, gan greu sawl cyfle dros y chwarter awr nesaf, gyda Kieffer Moore a Harry Wilson yn dod yn agos, ond roedd amddiffyn Bristol yn styfnig.

Ar hanner amser, Bristol oedd yn dal i fod gyda'r fantais.

Fe ddechreuodd chwaraewyr Neil Harris yn gystadleuol ar ddechrau'r ail hanner, ac fe fethodd Joe Ralls gyfle gwych ar ei droed wan wedi i Robert Glatzel benio'r bêl i ffwrdd o'r gôl.

Daeth Josh Murphy ar y cae yn lle Junior Hoilett i Gaerdydd wedi 77 munud, ond doedd yr eilyddio ddim yn ddigon i danio'r tîm cartref.

Er eu perfformiad penderfynol yn ystod y chwarter awr olaf, roedd amddiffyn Bristol City yn gadarn yn wyneb yr ymosodiadau.

Fe gafwyd pum munud o amser am anafiadau, ond doedd ddim yn ddigon i unioni'r sgôr - gyda Chaerdydd yn colli 0-1 yn erbyn yr hen elyn.