Plant bregus ardal Aberystwyth i gael pecynnau crefft

  • Cyhoeddwyd
Arts DropFfynhonnell y llun, Prosiect Arts Drop
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn Aberystwyth yn efelychu prosiect llwyddiannus yn Lloegr gan ychwanegu elfen natur

Bydd nifer o blant bregus yn ardal Aberystwyth yn derbyn pecynnau arbennig yr wythnos hon a fydd yn eu cefnogi yn ystod y cyfnod clo.

Mae'r bagiau yn llawn o ddeunyddiau creadigol ac wedi'u hanelu at blant a allai wynebu tlodi neu fod yn ynysig.

Prosiect Coetir Anian sydd wedi cael y syniad i ddosbarthu'r bagiau wedi llwyddiant y prosiect Arts Drop yng ngogledd Lloegr.

Mae Coetir Anian, sy'n cael ei redeg gan elusen Sefydliad Tir Gwyllt Cymru, yn adfer coetir brodorol a chynefinoedd naturiol gan ailgyflwyno rhywogaethau brodorol sydd ar goll, ond rhan arall o'r gwaith yw cysylltu plant ysgol â natur a llefydd gwyllt.

'Llawer heb fynediad i'r we'

"Roeddwn wedi dotio," meddai Clarissa Richards, arbenigwraig addysg yng Nghoetir Anian, "pan glywais am brosiect Arts Drop ac roeddwn yn meddwl y byddai'n gyfraniad gwerthfawr i'r gwaith ry'n ni'n ei wneud gyda phlant.

"Hyd yn oed mewn cyfnod clo roedd prosiect Arts Drop yn cyrraedd plant a oedd wirioneddol angen cefnogaeth ac felly dyma gael y syniad o gyfuno'r prosiect gyda natur.

"Does gan blant sy'n byw mewn cartrefi tlawd, yn aml, ddim mynediad i'r we ac felly mae eu gweithgareddau yn gallu bod yn fwy cyfyngedig.

"Pan gafodd y prosiect ei lansio yn Calderdale yn sir Gorllewin Efrog ym mis Mai fe gafodd dderbyniad anhygoel gan blant, teuluoedd a gweithwyr cymdeithasol ac fe gafodd y plant fudd o weithio gyda phapur, pensiliau lliw a deunyddiau eraill."

Ffynhonnell y llun, Coetir Anian
Disgrifiad o’r llun,

'Yn fwy na dim mae'n rhoi neges i blant bregus eu bod nhw'n bwysig' medd Clarissa Richards

Mae'r prosiect yng Ngheredigion yn cyfuno gwaith celf gydag eitemau naturiol o gaeau a choedwigoedd - mannau lle mae prosiectau Coetir Anian eisoes yn gweithredu. Mae wedi ei addasu i gwrdd â gofynion plant ardal wledig.

Ymhlith y gweithgareddau fydd yn y pecyn mae cardiau post yn llawn posau a heriau fel creu draenog neu goron natur.

Mae amrywiol becynnau ar gyfer oedrannau gwahanol ac fe fyddan yn cael eu dosbarthu gan ysgolion, gweithwyr cymdeithasol a Barnardo's Cymru.

"Mae hwn yn gallu bod yn gyfnod anodd i bawb," ychwanegodd Ms Richards, "ac mae nifer o blant yn poeni am eu rhieni a'u dyfodol.

"Bwriad y gweithgareddau yw tawelu meddyliau plant a phobl ifanc ond hefyd eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau newydd a bod yn nhw eu hunain. Yn aml mae gweithgareddau fel hyn yn dod â theuluoedd at ei gilydd ac yn rhoi ffocws i deuluoedd a phlant."

'Plant bregus yn bwysig'

Mae'r prosiect wedi cael cefnogaeth ar draws y DU gan gynnwys Cronfa Gadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

'Dyw nifer o blant bellach ddim yn chwarae tu allan ac maent wedi colli'r hyder i wneud hynny'

"Ry'n mor ddiolchgar am bob cefnogaeth," ychwanega Clarissa Richards.

"Mae cael swyddi sy'n talu'n dda yn gallu bod yn anodd yn yr ardal hon ac mae nifer yma yn gwneud gwaith shifft ac yn aml does dim amser ganddynt i fynd â'r plant y tu allan.

"Y dyddiau yma dyw plant, yn aml, ddim yn cysylltu â byd natur a does dim hyder ganddynt i fod y tu allan. Mae'r pecyn yma, gobeithio, yn rhoi syniadau a hyder iddyn nhw i ddefnyddio deunyddiau naturiol ac yn rhoi awgrymiadau beth y gellid ei wneud gyda phlant eraill yn yr awyr agored.

"Yn fwy na dim mae'n rhoi neges i blant bregus eu bod nhw'n bwysig ac nad ydynt wedi cael eu hanghofio."