Achosion Covid-19 mewn cartref gofal yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Cartref Gofal Dementia Hafod y Waun, Waunfawr, AberystwythFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Does dim cadarnhad faint o achosion coronafeirws sydd wedi'u cofnodi yng nghartref Hafan y Waun

Mae nifer amhenodol o staff a phreswylwyr cartref gofal yn Aberystwyth wedi profi'n bositif am Covid-19.

Daeth yr achosion yng Nghartref Gofal Hafan y Waun i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf o ganlyniad i'r profion sy'n cael eu cynnal bob pythefnos ar staff cartrefi gofal Ceredigion.

Cafodd profion pellach eu cynnal ar breswylwyr y cartref wedi canlyniadau positif ymhlith aelodau staff.

Mae achos lluosog nawr wedi'i ddatgan yn y cartref wedi i nifer o'r preswylwyr gael canlyniadau positif.

Dim cadarnhad o nifer yr achosion

Dywed Cyngor Ceredigion fod Tîm Rheoli Achos Lluosog aml-asiantaeth wedi'i sefydlu i atal lledaeniad y feirws, sy'n cynnwys cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond dydy'r cyngor heb gadarnhau nifer yr achosion, gan ddweud mewn datganiad: "Ni fydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu ar y mater hwn."

Mae'r cartref, sy'n cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol MHA, yn darparu gofal dementia ar gyfer hyd at 90 o breswylwyr.

Dywed y cyngor fod rheolwyr y cartref "wedi cysylltu â theuluoedd y preswylwyr i gyd a bydd y staff yn rhoi diweddariadau rheolaidd i bob teulu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf".