Claf wedi achosi £50,000 o ddifrod i ysbyty ar ôl tanio sigarét
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i garcharu am bum mlynedd ar ôl cyfaddef iddo achosi tân mewn ysbyty trwy gynnau sigarét.
Roedd Lee Williams, o Dreherbert yn Rhondda Cynon Taf, yn gwisgo mwgwd ocsigen pan oleuodd y sigarét ar ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y tân wedi achosi difrod gwerth bron i £50,000.
Plediodd yn euog i ymosod ar weithiwr brys a llosgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Bu'n rhaid i 38 o gleifion adael ar ôl i'r tân gydio yn y ward, a gaewyd wedi hynny am bythefnos ym mis Mai 2019.
Roedd Williams, 44, wedi bod yn derbyn triniaeth am bythefnos ar ward C5 yn yr ysbyty pan ddigwyddodd y tân.
Clywodd y llys fod Williams wedi cael gwybod ar dri achlysur blaenorol nad oedd yn cael ysmygu ar y ward, ond dywedodd: "Dwi ddim yn poeni, fy mhenderfyniad i yw cael sigarét."
Ddiwrnod cyn y tân cafodd ei weld yn ei wely gyda sigarét wedi'i oleuo, ond roedd yn ymddangos ei fod yn cysgu.
Aeth nyrs â'r sigarét wedi'i oleuo i ffwrdd a chafodd rybudd eto rhag ysmygu yn yr ysbyty.
Dywedodd yr erlynydd Andrew Kendall wrth y llys: "Gorfodwyd y ward i gau am bythefnos a chafodd staff meddygol driniaeth ar gyfer anadlu mwg."
Ychwanegodd fod ymchwiliad wedi canfod mai "ysmygu wrth ddefnyddio mwgwd ocsigen" oedd "achos tebygol" y tân.
Achosodd y tân werth £47,500 o ddifrod ac fe wnaeth y cau "ychwanegu pwysau at weddill yr ysbyty".
Dioddefodd Williams drwyn du ac anafiadau i'w geg ar ôl y tân.
Dywedodd Laurence Jones, wrth amddiffyn, y gallai Williams "fod wedi drysu trwy hunan-feddyginiaeth".
Dywedodd y Barnwr David Wynn Morgan: "Fe wnaethoch chi beryglu bywyd y meddyg a ruthrodd i'ch trin chi, y ddwy nyrs a helpodd, y staff diogelwch a ddiffoddodd y tân, a'r 38 o gleifion y bu'n rhaid iddyn nhw adael yn y mwg trwchus."