Cyhuddo dyn o droseddau cyffuriau ar ôl marwolaeth myfyrwraig
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â chyffuriau ar ôl marwolaeth myfyrwraig 18 oed.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i neuadd breswyl Talybont yn y brifddinas am 00:40 fore Sadwrn, 14 Tachwedd.
Roedd ei ffrindiau wedi dod o hyd iddi wedi cwympo yn un o'r fflatiau sy'n perthyn i Brifysgol Caerdydd.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Prifysgol Caerdydd, ond bu farw yno nos Fawrth.
Mae teulu'r fyfyrwraig - sydd heb gael ei henwi - wedi teithio i dde Cymru ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan yr heddlu.
Yn y cyfamser, bydd dyn 23 oed yn ymddangos yn Llys Ynadon y brifddinas ddydd Mercher.
Mae Lanoi Lidell, o ardal Pentwyn, wedi ei gyhuddo o gynnig i gyflenwi ketamine a chocên ar 15 Tachwedd, o gynnig i gyflenwi ketamine ac MDMA rhwng 31 Hydref a 9 Tachwedd, ac o gyflenwi MDMA a ketamine.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020