Teyrnged i fyfyrwraig fu farw ym Mhrifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r fyfyrwraig a fu farw yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i neuadd breswyl Talybont yn y brifddinas am 00:40 fore Sadwrn, 14 Tachwedd.
Roedd Megan Pollitt yn 18 oed, ac yn dod o Rugby yn Sir Warwick.
Mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud: "Roedd Meg yn rhoi ei hamser i bawb o'i chwmpas a wastad yna i eraill.
"Roedd wedi dechrau astudio'r gyfraith yng Nghaerdydd, ac yn llawn breuddwydion a dyheadau.
"Byddwn yn colli ei gwên ddisglair a phrydferth, a'r egni positif a fyddai'n codi ysbryd unrhyw un.
"Roedd yn hoffi'r awyr agored yn enwedig cerdded gyda'i thad a'r ci. Dringodd i gopa'r Wyddfa yn ddiweddar.
"Bydd colled enfawr ar ôl Meg, a bydd ei mam a'i thad, chwaer, nain a thaid a'i ffrindiau yn ei charu am byth."
Mae'r teulu nawr wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn prosesu'r hyn a ddigwyddodd ac i alaru am eu merch.
Mae dyn o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â chyffuriau ar ôl ei marwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020