Gwerthu plasty wedi 600 mlynedd yn y teulu
- Cyhoeddwyd
Wedi 600 mlynedd yn un teulu mae perchnogion ystâd yng Ngwynedd, sy'n honni bod yna gysylltiad rhyngddyn nhw ac un o frenhinoedd y gogledd, yn cael ei werthu.
Cafodd prif dŷ Llanfendigaid ger Tywyn yn ne Eryri ei adeiladu yn y 13eg ganrif, cyn cael ei adnewyddu i'w ddyluniad presennol yn 1746.
Mae'r teulu sy'n gwerthu'r ystâd yn dweud bod gan eu teulu nhw gysylltiadau a'r lle mor bell yn ôl a 1241.
Mae'r perchennog presennol, Will Garton-Jones, wedi penderfynu gwerthu'r lle oherwydd nad yw am i'w dair merch wynebu'r her a ddaw yn sgil etifeddu ystâd.
Fe etifeddodd y cyn-swyddog yn y fyddin y tŷ a'r ystâd pan oedd yn 23 oed yn yr 1980au.
Mae'r ddogfen hynaf y mae'r teulu wedi'i gweld yn sôn am enw'r tŷ yn 1241.
Mae dogfennau eraill yn dangos bod yr ystâd gyda'r teulu o tua'r 16eg ganrif - er "mae'n debyg yn llawer cynt na hynny" meddai Mr Garton-Jones.
Roedd teulu Nanney-Wynn, un o'r boneddigion cyfoethocaf yn y rhanbarth, yn berchen ar yr ystâd dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf, gydag ochr Nanney yn olrhain eu llinach yn ôl i Bleddyn ap Cynfyn, brenin Gwynedd a Powys a fu farw yn 1075.
Mae map o 1780 yn dangos bod yr ystâd wreiddiol yn ymestyn ar hyd arfordir Cymru o Harlech yn y gogledd i Aberystwyth yn y de.
Ers hynny mae ystâd Llanfendigaid wedi lleihau tipyn a bellach mae'r ystâd y cynnwys darn llawer llai o Barc Cenedlaethol Eryri ger arfordir Bae Ceredigion.
"Beth bynnag yw'r gwirionedd, mae'n hen safle iawn, a gallwch chi weld pam - roedden nhw'n amlwg wedi dewis y man gorau," meddai Mr Garton-Jones, sy'n byw yn Wiltshire.
"Mae'n safle hyfryd, mae ganddo feicro-hinsawdd, lle mae pobman arall yn gymylog neu'n bwrw glaw ac mae gennych chi heulwen - mae'n hynod iawn."
William Nanney-Wynn oedd y cyntaf i gymryd enw'r teulu tua 1750, ac mae ei bortread yn dal i hongian yn y maenordy heddiw.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif y daeth teulu Mr Garton-Jones i fod â chysylltiad cadarn â Llanfendigaid.
Yn eu plith roedd ei hen dad-cu, Edward William Kirkby, un o 10 o blant a gafodd eu magu yn y tŷ.
"Roedd cefnder fy hen dad-cu wedi etifeddu'r ystâd ond wedi penderfynu y byddai'n well ganddo fyw yn Awstralia, ac wedi cyfarwyddo fy hen dad-cu i werthu popeth ac anfon yr arian ato.
"Fe wnaeth hynny yn briodol - gyda fy hen dad-cu yn negodi pris da iawn gydag ef ei hun i brynu ystâd Llanfendigaid."
Pan fu farw ei dad-cu, daeth yr ystâd i ddwylo Mr Garton-Jones, ac mae wedi treulio'r tri degawd diwethaf yn ei droi'n ganolfan wyliau.
Dywedodd Mr Garton-Jones bod y pandemig Covid wedi gwneud iddo feddwl mai dyma'r amser iawn i'w roi ar y farchnad.
Byddai'n golygu mai ef yw'r olaf o 40 cenhedlaeth i fod yn berchen ar y tŷ a'r ystâd.
Mae'n cyfaddef ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd, yn llawn emosiynau.
"Yr un peth cadarn yn fy mywyd, y lle roedden ni'n dod yn ôl ato bob amser, oedd Llanfendigaid. Mae wedi bod yn angor gwych," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020