Y Bencampwriaeth: Millwall 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
MooreFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe welodd Neil Harris ei dîm yn sicrhau pwynt wedi i gôl Kieffer Moore arwain at gêm gyfartal i Gaerdydd oddi cartref bnawn Sadwrn.

Roedd Harris yn ôl yn y Den am y tro cyntaf ers iddo adael ei swydd fel rheolwr Millwall ym mis Hydref 2019.

Roedd yn ymddangos y byddai wedi gorfod profi prynhawn diflas tan i ergyd isel Moore unioni'r sgôr yn dilyn gôl Matt Smith yn yr hanner cyntaf.

Dim ond un allan o saith o gemau mae Caerdydd wedi eu hennill mewn saith ymddangosiad yn y Bencampwriaeth, ac fe fyddant yn falch o fod wedi llwyddo i achub pwynt yn hwyr yn erbyn Millwall.