Pa wersi i Gymru o brofion torfol Lerpwl?
- Cyhoeddwyd
Efallai bod profion torfol yn ddull newydd o geisio rheoli'r coronafeirws yng Nghymru, ond mae wedi bod yn digwydd yn Lerpwl ers dros bythefnos fel rhan o gynllun peilot.
Mae pawb sy'n byw a gweithio ym Merthyr Tudful yn cael cynnig prawf Covid-19, os oes symptomau neu beidio, fel rhan o gynllun peilot a ddechreuodd ddydd Sadwrn.
Cemlyn Davies sydd wedi bod yn clywed pa wersi y gall Merthyr eu dysgu o Lannau Merswy.
Erbyn prynhawn ddydd Gwener roedd dros 140,000 o'r hanner miliwn o bobl sy'n byw yn Lerpwl wedi cael prawf coronafeirws fel rhan o gynllun profi torfol y ddinas.
Roedd dros 700 ohonyn nhw wedi cael gwybod eu bod wedi eu heintio er nad oedd ganddyn nhw unrhyw symptomau.
"Fyddai'r bobl hynny, pe na bai'r cynllun yma ar waith, ddim wedi bod yn ymwybodol o'r ffaith eu bod wedi eu heintio a'u yn heintus," esboniodd y Cynghorydd Paul Brant.
Ef yw'r aelod cabinet ar Gyngor Lerpwl sy'n gyfrifol am Iechyd Cyhoeddus a Gofal Cymdeithasol, ac mae'n bles â'r ffordd y mae pethau'n mynd.
"Mae wir yn help i reoli lledaeniad y feirws yn y ddinas."
Yn ôl y cyngor mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn allweddol, a dyna pam mae sawl wyneb enwog wedi cael cais i helpu i godi ymwybyddiaeth.
Mae rheolwr clwb pêl-droed Lerpwl Jurgen Klopp a rheolwr Everton, Carlo Ancelotti, ymhlith yr enwogion sydd wedi bod yn annog trigolion y ddinas i gael eu profi.
Ar ôl sefydlu 37 o ganolfannau profi ledled y ddinas ar gyfer pobl heb symptomau, mae'r cyngor bellach yn paratoi i ddefnyddio unedau profi symudol i dargedu rhannau o'r gymuned ble mae'r ymateb wedi parhau'n isel.
Eglura'r Cynghorydd Brant: "Gall hynny fod oherwydd bod y boblogaeth ychydig yn fwy oedrannus ac efallai oherwydd bod ganddynt ddefnydd is o'r rhyngrwyd a phethau felly mae cyfleu'r neges mewn gwahanol ffyrdd, mewn gwahanol ardaloedd yn gywir."
Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, mae Emilia Bona bellach yn gweithio fel newyddiadurwr gyda'r Liverpool Echo.
Mae hi'n cytuno bod gwneud y profion mor gyfleus â phosib yn hanfodol.
"Mae gofyn i unrhyw un i wneud rhywbeth sydd hyd yn oed yn golygu ond mymryn o anghyfleustra yn anodd ei wneud," meddai.
"Felly rwy'n credu bod eu cael mewn lleoliadau hygyrch neu mewn leoliadau symudol yn bwysig iawn - er enghraifft o fy nhŷ i o fewn 10 munud o gerdded mae gen i dri safle profi gwahanol."
Dywed Emilia hefyd fod y canlyniadau hyd yma wedi dylanwadu ar agwedd pobl y ddinas tuag at y feirws.
"Pwynt allweddol sydd wedi synnu llawer o bobl, ac a allai fod yn helpu i atgyfnerthu'r neges, yw bod llawer o bobl heb symptomau wedi cael canlyniad positif oherwydd y profion hyn.
"Rwy'n credu bod hynny wedi gwneud i lawer o bobl eistedd i fyny a rhoi sylw iddo."
Mae gan bobl hefyd y "cymhelliant", meddai Emilia, o fod eisiau gweld cyfyngiadau'n cael eu codi - roedd Lerpwl yn haen uchaf cyfyngiadau Lloegr cyn i gyfnod clo'r wlad gychwyn.
Yn Lerpwl y neges gan yr awdurdodau yw na ddylid ystyried canlyniad negyddol fel "trwydded i ddechrau partïo".
"Mae'r ffaith ein bod yn digwydd bod yn gweithredu ein system profi yma ar yr un pryd â'r cyfnod clo yn Lloegr yn golygu bod y mwyafrif o bobl gartref y rhan fwyaf o'r dydd beth bynnag," meddai'r Cynghorydd Brant.
Mae hynny'n wahanol i'r sefyllfa ym Merthyr Tudful ble mae bariau a bwytai yn parhau ar agor.
Mae'r Cynghorydd Brant yn rhybuddio'r awdurdodau yno "efallai y byddan nhw'n wynebu her ychydig yn bwysicach o gyfathrebu â phobl sy'n cymryd rhan yn y profion torfol yng Nghymru i sicrhau eu bod nhw'n deall yn iawn yr hyn mae gofyn iddyn nhw ei wneud".
Ychwanegodd: "Byddwn yn dweud wrth Lywodraeth Cymru, 'edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yma yn Lerpwl, dysgwch ohono, ond cyflwynwch bethau'n lleol gan ddefnyddio eich gwybodaeth leol eich hun ym Merthyr'."
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cyfradd yr achosion yn Lerpwl yn gwella er ei fod yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Lloegr.
Mae yna le gredu taw'r cyfyngiadau lleol sydd bennaf gyfrifol am y gwelliant, a'i bod hi'n rhy gynnar o hyd i fesur effaith y cynllun profi.
Mae Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00, dydd Sul 22 Tachwedd ac ar iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2020