Yr heriau sy'n wynebu gyrwyr tacsi mewn pandemig
- Cyhoeddwyd
Dywed gyrwyr tacsi eu bod yn cael trafferth talu biliau a rhoi bwyd ar y bwrdd oherwydd bod llai o deithwyr yn sgil y pandemig.
Mae undeb Unite Wales, sy'n cynrychioli'r gweithwyr, yn honni bod gweinidogion wedi "anghofio" am y diwydiant, wrth ganolbwyntio cefnogaeth ar fysiau a threnau.
Dywedodd un gyrrwr yng Nghaerdydd ei fod wedi bod yn ffodus i ennill £25 y dydd yn ystod y cyfyngiadau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu cefnogaeth yn barhaus.
Mae gyrwyr tacsi yn paratoi i gynnal protest y tu allan i Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Mawrth.
Unigrwydd
Yn ystod y cyfnod clo, bu'n rhaid cau tafarndai, bariau a bwytai a chafodd digwyddiadau eu canslo.
Er bod llawer o leoliadau bellach wedi ailagor, mae amseroedd cau cynnar a mesurau pellhau cymdeithasol ar waith, gyda phobl yn cael eu hannog i weithio gartref.
Dywedodd ysgrifennydd cangen Unite, Yusef Jama, fod y cyfyngiadau yn golygu bod llawer o yrwyr yn treulio oriau yn aros am gwsmer.
Dywedodd Mr Jama fod pryder ac iselder ymysg gyrwyr bellach ar bwynt argyfwng, a bod llawer yn ei chael hi'n anodd yn ariannol ac yn poeni am eu teuluoedd.
"Rydw i wedi cael sgyrsiau gyda gyrwyr, lle maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gadael ar eu pennau eu hunain, neb i droi atyn nhw ac i siarad am y problemau maen nhw'n mynd drwyddyn nhw," meddai.
"Mae wedi cyrraedd pwynt lle nad ydw i'n gwybod a fydd y gyrwyr hyn yn fyw yfory.
"Maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n mynd i golli eu tŷ, maen nhw'n cael problemau adref oherwydd nad ydyn nhw'n darparu ar gyfer eu teuluoedd."
'Rhoi bwyd ar y bwrdd yn frwydr wythnosol'
Mae mwyafrif y gyrwyr tacsi yn hunangyflogedig ac mae ganddyn nhw hawl i estyniad grant Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig Llywodraeth y DU.
Mae'r grant, sy'n drethadwy, yn talu 80% o'r elw ar gyfer Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr, hyd at £7,500.
Ond mae gyrwyr yn honni bod y diwydiant yn cael trafferth cyn y pandemig, gyda llawer yn gwneud ychydig o elw unwaith y cymerwyd costau a thrwyddedau cerbydau o'r prisiau.
Diflannodd incwm Eva Dukes o Gaerdydd dros nos pan gaeodd ysgolion a swyddfeydd ym mis Mawrth.
Dywedodd y fam i dri o blant fod ei chytundebau wedi dod i ben a, gyda'i gŵr hefyd yn yrrwr tacsi, roedd y teulu'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Tra bod Eva a'i gŵr Philip yn derbyn grantiau o dan y cynllun, roedd hynny tua £1,000 y mis, a dywedodd eu bod wedi mynd trwy eu holl gynilion.
"Mae rhoi bwyd ar y bwrdd yn frwydr wythnosol," meddai.
"Rydyn ni angen help nawr. Maen nhw wedi rhoi arian i'r bysiau a'r trenau a'r holl drafnidiaeth arall, a nawr mae angen help arnon ni."
'Neb yn ein helpu ni'
Dywedodd Rofikul Islam, sy'n dad i dri o blant, fod gan ei deulu ofn iddo fynd i'r gwaith ac, o bosib, bod mewn perygl o gael y feirws.
Ond roedd yn poeni am fynd i ddyled.
"Mae'n ddrwg iawn ar hyn o bryd," meddai. "Mae'n rhaid i ni aros tair i bedair awr ac ar ôl y tair awr, pedair awr, rydyn ni'n cael £6. Trwy'r dydd rydyn ni'n gweithio am £25, £27."
Ychwanegodd: "Does neb yn ein helpu ni, felly mae'n rhaid i ni drio ein hunain.
"Rydyn ni'n cymryd risg, allwn ni ddim gwneud unrhyw beth - mae'n rhaid i ni ddod allan i wneud ein gorau."
'Methu gwneud bywoliaeth'
Yn Yr Alban, cyhoeddodd y llywodraeth gronfa gwerth £30m ar gyfer gyrwyr, ac yng Ngogledd Iwerddon mae cynllun gwerth £14m wedi'i sefydlu.
Dywed cynrychiolwyr undeb eu bod am i Lywodraeth Cymru ddarparu'r un math o gyllid.
Yn ôl Alan McCarthy o undeb Unite, roedd llawer o yrwyr wedi bod yn ôl yn y gwaith ond yn methu â gwneud bywoliaeth am fisoedd.
Gofynnodd y BBC am gyfweliad gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates - ond cafodd y cais ei wrthod.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod cefnogaeth ar gael i yrwyr, ond ei bod yn cydnabod maint yr her yr oedd coronafeirws wedi achosi.
"Rydyn ni'n trafod yn rheolaidd gyda'r sector a byddwn yn parhau i adolygu pa gefnogaeth y gellir ei darparu," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020