Mygydau i fod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
MasgFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i unrhyw un sydd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo mwgwd o 27 Gorffennaf.

Bydd hyn yn berthnasol hefyd i bobl sydd yn teithio mewn tacsis ac mewn unrhyw sefyllfa lle nad oes modd cadw pellter o 2m.

Ond, dywedodd na fydd disgwyl i bobl wisgo mwgwd mewn siopau a llefydd cyhoeddus eraill.

Ar hyn o bryd does dim gorfodaeth ar bobl i wisgo mygydau tair haen ar drafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru.

Yn ystod y gynhadledd i'r wasg, fe ymddiheurodd y Prif Weinidog wedi iddo awgrymu mai dim ond wythnos diwethaf y daeth gorfodaeth am wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus i rym yn Lloegr.

Mewn gwirionedd, mae'r rheol wedi bod mewn grym dros y ffin ers 15 Mehefin.

Daeth yr un rheol i rym yn Yr Alban ar 22 Mehefin, ac mae'n orfodol hefyd i wisgo mygydau mewn siopau yno ers wythnos diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff yn Llundain wedi bod yn rhoi mygydau i bobl ar y system trên tanddaearol

Mae'r rheol hefyd mewn grym ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Wrth siarad yn y gynhadledd ddyddiol i'r wasg ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford: "Ni'n newid y cyngor ni'n rhoi i bobl. Ni eisiau gweld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth i'r economi ailagor.

"Ar adegau lle nad oes modd cadw pellter o ddwy fetr, mae'n bwysig rhoi pethau eraill yn eu lle i sicrhau bod hynny yn ddiogel i bawb.

"Mae defnyddio face coverings yn un o'r pethau ni wedi cytuno."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wythnos diwethaf fe ddywedodd Mr Drakeford bod y "farn yn symud" yn dilyn y dystiolaeth ddiweddaraf ar gyfer defnyddio mygydau wyneb.

Bryd hynny, doedd e ddim yn credu ei bod yn "synhwyrol" i'w gwneud hi'n orfodol i'w gwisgo mewn rhai sefyllfaoedd.

"Pan fydd pwysau'r dystiolaeth yn newid, yna byddwn yn newid ein polisi."

Mae'n ymddangos fod y dystiolaeth wedi newid digon i berswadio'r llywodraeth fod angen gorfodi pobl i wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddiwedd y mis yma.

Fydd dim rhaid i blant dan oedran penodol wisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Mr Drakeford hefyd na fydd rhaid gwisgo mwgwd mewn siopau na mannau cyhoeddus eraill.

"Mae'r lefel coronafeirws lawr at y gwaelod," medd Mr Drakeford wrth drafod sut mae'r feirws yn effeithio ar Gymru.

"Os bydd coronafeirws yn dod nôl, wrth gwrs, ni'n gallu ailfeddwl am y sefyllfa."

Dim newid safbwynt

Ond fe wadodd Mr Drakeford awgrym bod Llywodraeth Cymru wedi newid safbwynt am fygydau.

"Dim gwamalu, dim oedi, hollol gyson drwy'r cyfan!" meddai Mr Drakeford, wrth ddweud bod llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y llaw arall wedi bod yn gwbl anghyson.

Dywedodd bod Boris Johnson yn cyhoeddi un peth ar ddydd Sadwrn, a Michael Gove yn gwrthddweud y polisi ar ddydd Llun.

Cadarnhaodd unwaith eto nad yw wedi cael sgwrs â Phrif Weinidog y DU, Boris Johnson ers 28 Mai ac nad oes unrhyw gyfarfod wedi'i drefnu eto chwaith.

'Pam ddim mewn siopau hefyd?'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cyhoeddiad y prif weinidog ddydd Llun, ond yn cwestiynu pam nad yw'r rheol newydd yn cael ei rhoi ar waith yn syth.

Dywedodd llefarydd y blaid ar coronafeirws, Darren Millar: "Mae'n rhaid i'r prif weinidog ddangos tystiolaeth wyddonol - os yw'n bodoli - er mwyn cyfiawnhau cyflwyno'r rheol mewn pythefnos yn hytrach nac yn syth, a pham ar drafnidiaeth gyhoeddus yn unig."

Mae Plaid Cymru yn dweud nad yw'r rheol newydd yn mynd yn ddigon pell, gan alw am wneud gwisgo mygydau yn orfodol unrhyw le nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price: "Gan gydnabod bod gwisgo mygydau yn gwneud gwahaniaeth allweddol ar drenau, bysiau a thacsis, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn i Lywodraeth Cymru - pam ddim mewn siopau hefyd?

"Dydy'r canllawiau diweddaraf, tra'n gam i'r cyfeiriad cywir, ddim yn mynd yn ddigon pell."