Cwmni'n cynllunio mygydau arloesol i weithwyr iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Abertawe yn gweithio gyda nifer o brifysgolion o'r DU i gynllunio mwgwd a allai gael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd rheng flaen.
Mae'r gorchudd wyneb yn cael ei deilwra'n arbennig wedi i nifer o arbenigwyr iechyd gael trafferthion cael hyd i fygydau addas.
Cafodd cwmni MyMaskFit ei sefydlu gan ŵr i nyrs gofal dwys a gafodd drafferth ddod o hyd i fwgwd oedd yn ffitio ei hwyneb ac a oedd yn ei gwarchod rhag Covid-19.
Gobaith y cwmni yw datblygu cynlluniau ymchwilwyr ym Mhrifysgol Birmingham a Choleg King's yn Llundain.
Bydd Adran Beirianneg Prifysgol Abertawe yn helpu i brofi a chynhyrchu y gorchudd a'r gobaith yw y bydd ar gael i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn y flwyddyn newydd.
'Angen sicrwydd i weithwyr iechyd'
Dywed Valerie Bednar sy'n nyrs yn Ysbyty Treforys ond sydd ar hyn o bryd ar gyfnod mamolaeth: "Rwy'n un o'r bobl hynny nad yw masg arferol FFP3 yn ffitio fy wyneb.
"Y rheswm pam mae pobl fel fi am fynd i nyrsio yw gofalu am bobl - ond roedd yna bryder ychwanegol eleni sef a oedd gen i y cyfarpar addas i f'amddiffyn. Roedd yr ansicrwydd yna yn creu pryder i bawb."
Mae cwmni MyMaskFit yn gobeithio bod y cwmni cyntaf i greu gorchudd wedi'i deilwra'n arbennig - gorchudd a fydd modd ei ddefnyddio eto ac a fydd yn cwrdd â safonau meddygol y DU.
Ychwanegodd Ms Bednar: "Ry'n am lunio mwgwd y gellir ei ddefnyddio eto fel bod staff, pan maent yn cyrraedd y gwaith, yn gwybod ei fod yno.
"Os mai chi sydd ei berchen ac yn gyfrifol am ei lanhau, mae hynna yn rhoi sicrwydd ac yn amddiffyn unigolyn. Ry'n ni hefyd yn ceisio creu gorchudd sy'n dda i'r amgylchedd."
Er mwyn cyflymu'r broses, mae'r cwmni wedi lansio ap arbennig a fydd yn sganio wyneb person ac yna mae'n llunio data a fydd yn creu mowld a phrint 3D. Bydd hi wedyn yn bosib cynllunio sêl a fydd yn ffitio wyneb unigolyn.
'Mwgwd ddim yn addas i 20%'
Dywed Rheolwr Technoleg cwmni MyMaskFit, Paul Perera: "Dim ond i 80% y cant o bobl mewn ysbytai y mae'r mwgwd sy'n cael ei ddarparu yn addas.
"Un o'r pethau ry'n wedi cael adborth yn ei gylch gan feddygon a deintyddion yw eu bod methu cyfathrebu am nad yw cleifion yn gweld eu ceg ac felly yr hyn fyddwn i'n ei wneud fel un dewis yw defnyddio plastig adnewyddadwy tryloyw fel bod pobl yn gallu gweld drwyddo.
"Yn y plastig mi fyddwn yn defnyddio copr sy'n lladd y feirws. Bydd y mwgwd yn gallu cael ei ddefnyddio eto ac felly bydd yn well i'r amgylchedd."
Mae'r broses gychwynnol o gynhyrchu'r mwgwd a'i brofi ymhellach yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Technoleg Gofal Iechyd yn Birmingham bod y prosiect wedi deillio o ddau angen sef methiant maint y rhai presennol a pha mor gyffyrddus sydd angen iddynt fod.
"Mae'r rhan fwyaf o fygydau tafladwy â darn o fetel sy'n mynd ar draws y trwyn ac mae staff sy'n eu gwisgo am gyfnod hir yn cael cleisiau a briwiau. Ry'n wedi darganfod hefyd bod lot o amser yn cael ei wastraffu i'w cael i ffitio."
"Ry'n wedi cyflwyno ein gwybodaeth i gwmni MyMaskFit a'u tasg nhw nesaf fydd gwneud y defnydd gorau o'r wybodaeth a gwneud gwahaniaeth sylweddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020