'Gall mygydau ddod yn orfodol mewn ysgolion uwchradd'
- Cyhoeddwyd
Fe all ddod yn orfodol i orchuddio'r wyneb mewn ysgolion uwchradd wrth i Lywodraeth Cymru ystyried tystiolaeth wyddonol newydd ynghylch lledaeniad Covid-19.
Mae adroddiad Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru, dolen allanol (TAC) yn awgrymu " lefelau uwch o heintiau a throsglwyddo o fewn grwpiau oedran ysgol" nag oedd wedi ei ystyried yn flaenorol.
Dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fod Llywodraeth Cymru'n "edrych a oes rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio gorchuddion wyneb".
Yn yr haf fe ddywedodd gweinidogion bod rhyddid i ysgolion ac chynghorau benderfynu ym mha adeiladau mae angen i ddisgyblion wisgo mygydau.
Dywedodd y gwrthbleidiau a rhai undebau addysg ar y pryd bod gweinidogion yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb i arweinwyr ysgol.
Gwadu hynny wnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, a fynnodd na fyddai gorfodi'r un cam ar bawb "yn cymryd i ystyriaeth wahaniaethau rhwng ysgolion".
Mae eisoes yn orfodol i wisgo mygydau yng nghoridorau a mannau cymunedol ysgolion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
O fewn mannau yn Yr Alban ble mae yna gyfraddau heintio uwch, mae hefyd disgwyl i ddisgyblion hŷn a staff wisgo mygydau yn yr ystafell ddosbarth.
Ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Kirsty Williams fod Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych "ar fesurau pellach ble gallwn ni leihau cysylltiadau".
Mae'r mesurau posib yn cynnwys atal plant rhag newid dillad yn rhy agos at ei gilydd ar ôl ymarfer corff, a chyfyngu ar ganu mewn grŵp dan do.
Mae adroddiad ymgynghorwyr gwyddonol TAC yn cyfeirio at y dystiolaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad plant a phobl ifanc wedi'r clo byr yng Nghymru, gan gynnwys wybodaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
'Achos cyntaf tebygol yr aelwyd'
Mae'r data, medd yr awduron, "yn awgrymu tystiolaeth erbyn hyn o lefelau uwch o heintiau a throsglwyddo o fewn grwpiau oedran ysgolion nag a chydnabyddwyd yn flaenorol".
Mae yna dystiolaeth hefyd "o raddfa uwch o drosglwyddo asymptomatig, ac mae plant yn fwy tebygol o fod yr achos cyntaf [o'r feirws] ar yr aelwyd".
Ychwanega'r adroddiad: "Mae'r dystiolaeth newydd yma'n awgrymu fod agor ysgolion yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o heintiadau o fewn y boblogaeth, er mae'r mecanwaith o ran hynny'n parhau'n aneglur."
Mae'r ffactorau posib eraill, medd TAC, yn cynnwys ailagor siopau a busnesau lletygarwch, rhieni'n dychwelyd i'r gweithle, a mwy o gymdeithasu tu allan i'r ysgolion.
Dywedodd Ms Williams fod yr adroddiad "yn atgyfnerthu'r farn, yn nhermau'r risg uniongyrchol, os yw plant yn dal y feirws, maen nhw'n annhebygol iawn, iawn i gael niwed ohono, a dyna'r newyddion da.
"Ond rydym wedi gweld cynnydd yn nifer achosion o fewn y boblogaeth ysgolion uwchradd, ac mae'n ymddangos bod gan blant y grŵp oedran yna ran mewn trosglwyddo'r feirws."
Ychwanegodd: "Rhaid i ni weld pa fesurau eraill gallwn ni eu rhoi ar waith yn ein system ysgolion i'w gwneud hyd yn oed yn fwy diogel rhag Covid."
Mae'r data'n awgrymu nad yw athrawon mewn perygl uwch o gael eu heintio, a bod cyfraddau'r canlyniadau coronafeirws positif "yn ystadegol yn debyg i weithleoedd risg isel eraill."
'Rhoi diogelwch plant yn gyntaf'
Mae Plaid Cymru'n galw ers yr haf am wneud gwisgo masgiau mewn ysgolion uwchradd yn orfodol, gan fynegi pryder fod y feirws yn lledu ymhlith disgyblion ac yna i athrawon a'r gymuned ehangach.
"Er lles diogelwch ein plant, rhaid i Lywodraeth Cymru symud yn gyflym rŵan i fabwysiadu'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf gan TAC a gwneud mygydau'n orfodol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru," meddai llefarydd addysg y blaid, Sian Gwenllian.
"Mae rhieni angen sicrwydd fod diogelwch eu plant yn cael ei roi'n gyntaf."
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies mai'r "peth hanfodol yw cadw ysgolion ar agor". Mae hefyd yn dweud bod angen "rhywfaint o eglurder beth yw ffynhonnell yr haint".
Ychwanegodd: "Byddai'n eithaf annheg i bwyntio'r bys at ddisgyblion hŷn a myfyrwyr os yw ffynhonnell yr haint, mewn gwirionedd, y tu allan yn y gymuned, a'u bod yn digwydd dod ag e i mewn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020