Dwy garfan yn ymladd dros enw Plaid Diddymu

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, tattywelshie
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal ym Mai 2021

Mae Plaid Diddymu Cynulliad Cymru wedi cyhuddo ei chyn-arweinydd o ymddwyn fel lleidr gan "geisio dwyn enw'r blaid".

Nawr mae swyddogion y blaid yn ceisio ail-gofrestru'r enw gyda'r Comisiwn Etholiadol ar ôl i'w henw gael ei gymryd oddi ar y rhestr etholiadol.

Daeth hynny yn dilyn ffrae gyda'r cyn-arweinydd David Bevan.

Cafodd Mr Bevan ei ddiswyddo o fwrdd rheoli'r blaid, ond mae nawr yn ceisio adennill rheolaeth o'r enw, drwy gofrestru'r enw Plaid Diddymu Cynulliad Cymru ar gyfer etholiadau mis Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol: "Byddwn yn asesu'r ddau gais yn ôl y gofynion cyfreithiol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Bevan ei ddiswyddo ym mis Ebrill

Mae angen i bleidiau gwleidyddol gofrestru'n swyddogol cyn Chwefror 2021 er mwyn gallu cynnig ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai.

Cafodd Mr Bevan ei ddiarddel o'r blaid ym mis Ebrill eleni gyda llefarydd yn ei gyhuddo o fod yn aneffeithiol.

Ychwanegodd y llefarydd fod David Bevan ar y pryd wedi "gwrthod arwyddo ffurflen gofrestru y Comisiwn Etholiadol oni bai ei fod yn cael ei benodi'r ôl i fwrdd rheoli'r blaid".

Oherwydd hynny fe wnaeth Plaid Diddymu Cynulliad Cymru benderfynu bod yn rhaid gwneud cais o'r newydd i gofrestru gan dynnu eu cais gwreiddiol yn ôl.

Mewn datganiad dywedodd Mr Bevan ei fod wedi sefydlu'r blaid yn 2015 er mwyn cynnig ymgeiswyr "sydd heb eu huchelgais gwleidyddol eu hunain".

"Mae mudiad Diddymu Cynulliad Cymru yn un sydd ag egwyddorion ar gyfer pobl sy'n credu nad yw'r Cynulliad wedi bod yn dda i bobl Cymru."

Mae gan y blaid ddau aelod yn y Senedd, sef Mark Reckless a Gareth Bennett, gafodd eu hethol yn wreiddiol fel aelodau o UKIP yn 2021.