Cyhuddiad cyswllt agos rhwng Plaid Cymru a Jonathan Edwards

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards

Mae Plaid Cymru'n wynebu cyhuddiad o gadw "perthynas agos" gyda'r aelod seneddol Jonathan Edwards, sydd wedi ei wahardd o'r blaid.

Cafodd Mr Edwards ei wahardd am 12 mis ym mis Gorffennaf ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosodiad.

Ers ei wahardd mae wedi ymgyrchu gyda chynghorwyr etholedig Plaid Cymru, ac wedi defnyddio'r un ymgynghorydd ag arweinydd y blaid, Adam Price.

Mae un cynghorydd Llafur yn galw'r gwaharddiad yn "stynt cysylltiadau cyhoeddus".

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn ystyried y mater a arweiniodd at waharddiad Mr Edwards "gyda'r difrifoldeb mwyaf".

Cododd Rob James, arweinydd grŵp Llafur Cyngor Sir Gâr, "amheuon difrifol" ynghylch natur y gwaharddiad.

Gwaharddiad

Derbyniodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rybudd gan yr heddlu am ymosodiad ar ôl cael ei arestio yn ei gartref ar 20 Mai.

Ar ôl cael ei arestio cafodd y chwip ei dynnu oddi wrth Mr Edwards gan Blaid Cymru, sy'n golygu ei fod bellach yn eistedd fel AS annibynnol.

Roedd panel disgyblu Plaid Cymru ar y pryd yn ei alw'n "fater difrifol", a dywedodd Mr Edwards: "Mae'n ddrwg iawn gen i. Dyma edifeirwch mwyaf fy mywyd o bell ffordd."

Dywedodd datganiad ar ran ei wraig, Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ngŵr.

"Trwy gydol y degawd rydyn ni wedi bod gyda'n gilydd mae wedi bod yn ŵr a thad cariadus a gofalgar."

Rhwng mis Awst a mis Tachwedd eleni, cafodd Mr Edwards ei weld ar ymweliadau ymgyrchu â busnesau, yr heddlu, ysgolion a grwpiau cymunedol gyda nifer o gynghorwyr Plaid Cymru - gan gynnwys aelodau cabinet Cyngor Sir Gâr fel Glynog Davies.

Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru: "Mr Edwards yw ein haelod seneddol a dyma oedd ei ffordd i ddweud diolch i bobl yn lleol.

"Fe wnes i ei helpu, nid wyf am ymddiheuro am wneud hynny."

Mewn un neges ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae Mr Edwards ar ymweliad busnes gyda chynghorydd Plaid Cymru, Andrew James, mae Mr Edwards yn diolch i "[G]ynghorwyr Plaid Cymru Sir Gaerfyrddin am eu buddsoddiad yn addysg ein plant".

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Jonathan

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Jonathan

Mae ymgynghorydd sy'n cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan Mr Edwards hefyd wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod hefyd yn ymgynghorydd i Adam Price.

Pan ofynnwyd i Blaid Cymru am yr unigolyn hwnnw, cadarnhaodd y blaid nad oedd unrhyw effaith ar ei statws cytundebol gyda'r arweinydd, Mr Price.

Staff yn y Senedd

Ar yr un pryd mae'r Gofrestr Ysgrifenyddion a Chynorthwywyr Ymchwil y Senedd, sy'n gofnod misol o staff yn gweithio yn y Senedd, yn awgrymu bod Mr Edwards, trwy gydol ei waharddiad, yn cyflogi aelod o staff sy'n nodi ar-lein eu bod yn ymgynghorydd ar gyfer Plaid Cymru.

Rhwng Mawrth a Hydref 2020, mae'r cofrestrau i gyd yn nodi bod Mr Edwards yn noddi'r aelod staff i weithio yn y Senedd.

Ni all ASau noddi rhywun nad yw'n gweithio iddyn nhw, gan fod gofyn iddyn nhw lofnodi datganiad yn dweud bod yr ymgeisydd maen nhw'n ei noddi yn cael ei gyflogi ganddyn nhw i gefnogi eu dyletswyddau seneddol.

Ond dywed Plaid Cymru nad yw'r aelod staff wedi cael ei gyflogi gan Mr Edwards ers dros 12 mis.

Dywedodd llefarydd ar ran Jonathan Edwards nad oedd y gofrestr "yn gofrestr cyflogaeth" a dywedodd "nid yw'r aelod staff wedi ymgymryd ag unrhyw waith i Mr Edwards ers iddo gael ei wahardd o'r blaid".

'Amheuon difrifol'

Dywedodd y cynghorydd Llafur Robert James: "Mae'n ymddangos yn amlwg nad oedd gwaharddiad Plaid Cymru o Jonathan Edwards yn ddim mwy na stynt cysylltiadau cyhoeddus, a ddyluniwyd i gamarwain pobl i gredu bod y blaid wedi gweithredu i gosbi un o'i gwleidyddion etholedig uchaf am gyflawni gweithred o drais yn y cartref."

Ychwanegodd fod cynghorwyr Plaid Cymru "sy'n parhau i gefnogi Jonathan Edwards" wedi codi "amheuon difrifol ei fod wedi'i atal o'r blaid mewn gwirionedd".

"Rydyn ni'n mawr obeithio y gall Plaid Cymru egluro'r materion a godwyd gan drigolion lleol yn gyflym ac amlygu'r ffyrdd y mae cysylltiadau wedi'u torri gyda'r aelod seneddol dan gwmwl, yn enwedig wrth inni anelu tuag at Ddiwrnod y Rhuban Gwyn."

Beth ddywedodd Plaid Cymru?

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'n destun pryder mawr y byddai'r Cynghorydd Rob James eisiau gweld aelodau staff yn cael eu diswyddo ar adeg pan fod diweithdra yng Nghymru wedi gweld y cynnydd uchaf yn y DU.

"Oherwydd agweddau o'r fath y pleidleisiodd pobl Sir Gaerfyrddin i ethol 37 o gynghorwyr Plaid Cymru yn 2017.

"Mae eu gwaith yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi gan fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

"Mae Plaid Cymru wedi, a bydd bob amser, yn ystyried y mater a arweiniodd at wahardd Mr Edwards gyda'r difrifoldeb mwyaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Jonathan Edwards: "Mae Mr Edwards yn falch o gynrychioli pobl Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a bydd yn parhau i wasanaethu a chefnogi'r gymuned, yn ei rôl fel eu Haelod Seneddol.

"Yn rhinwedd y swydd hon yn unig mae wedi bod yn cynnal ymweliadau â busnesau a grwpiau cymunedol yn yr etholaeth."