Agor cwest i farwolaeth y cyn-ohebydd John Stevenson
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed sut y cafwyd hyd i'r cyn-ohebydd gwleidyddol, John Stevenson yn farw wedi i weithwyr iechyd fethu â chael ateb yn ei gartref yn Aberdâr.
Clywodd y gwrandawiad fod y newyddiadurwr a darlledwr 68 oed wedi ei ddarganfod ar y llawr wrth wely yn yr ystafell fyw ble roedd yn cysgu ym mis Mawrth eleni.
Cafwyd hyd i'w gymar hefyd yn farw yn yr un ystafell.
Roedd nyrsys ardal wedi galw'r heddlu ar ôl methu â chael ateb wrth ymweld â'r eiddo, ac fe dorrodd swyddogion eu ffordd i mewn.
Doedd yr un o'r ddau ddyn wedi cael unrhyw anaf.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gan Dr Stephen Leadbeatter a awgrymodd nad oedd modd cadarnhau achos y farwolaeth am y tro.
Cafodd y cwest ei ohirio nes gwrandawiad llawn yn Llys Crwner Pontypridd.
Clywodd y gwrandawiad hefyd fod teulu Mr Stevenson wedi cydsynio i'w gorff gael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil meddygol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020