Y Bencampwriaeth: Caerdydd 4-0 Luton
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Caerdydd ysgafnhau'r pwysau ar y rheolwr Neil Harris gyda buddugoliaeth rwydd o 4-0 yn erbyn Luton.
Roedd y tîm cartref ar dân o'r dechrau, gyda dwy gol o fewn deg munud diolch i Sean Morrison a Mark Harris.
Peniad Kieffer Moore cyn 60 munud wnaeth y pwyntiau yn ddiogel, gyda Sheyi Ojo yn ymuno yn yr hwyl deg munud o'r diwedd.
Golygai'r fuddugoliaeth fod Caerdydd yn codi i safle 14, gyda Luton yn gostwng i'r deuddegfed safle.
Ar ôl colli 1-0 i Coventry yn ystod yr wythnos roedd Neil Harris wedi cydnabod ei fod yn brwydro i gadw ei swydd - gyda dim ond tair buddugoliaeth mewn 13 gêm.
Fe wnaeth Caerdydd dri o newidiadau ar gyfer y gêm, gyda Mark Harris 21 oed yn dechrau am y tro cyntaf ers Ebrill 2017.