Y Bencampwriaeth: Nottingham Forest 0-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Connor Roberts yn codi i sgorio y gôl fuddugolFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Connor Roberts yn codi i sgorio'r gôl fuddugol

Mae Abertawe wedi codi i'r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth ar ôl i beniad Connor Roberts sicrhau tri phwynt yn erbyn Nottingham Forest.

Golygai'r fuddugoliaeth fod tim Steve Cooper ond dau bwynt y tu ôl i Norwich ar frig yr adran, gyda'r Elyrch yn sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth oddi cartref.

Fe gododd Roberts yn uwch nag unrhyw un i benio'r ymhelwyr ar y blaen cyn yr egwyl.

Er i Nottingham roi Abertawe dan bwysau fe ddaliodd yr amddiffynfa -sydd â'r record orau yn y pedwar prif gynghrair yn Lloegr- yn gadarn.

Fe wnaeth Andre Ayew fygwth dyblu mantais Abertawe, ond aeth ei ymdrech acrobatic i'r ochr anghywir o'r postyn.

Ceisodd Forest - yn aflwyddiannus - hawlio am gic o'r smotyn wrth i Lyle Taylor hawlio trosedd gan Ryan Bennet yn y blwch cosbi.

Ond wrth i'r gêm dynnu i'w therfyn pylu wnaeth unrhyw wir fygythiad i amddiffyn Abertawe.