Rhybudd melyn am niwl trwchus i ardaloedd yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
Weather warningFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Gall y niwl effeithio ar deithio a hediadau

Mae rhybudd am niwl trwchus dros dde Cymru yn debygol o achosi problemau teithio yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae posibilrwydd bydd hediadau yn cael eu canslo a bydd amseroedd teithio yn arafach ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd y rhybudd melyn yn dod i rym o 17:00 dydd Sul tan 08:00 dydd Llun.

Fe allai pellter gweld yn y niwl fod mor wael â 50-100m (156-328 troedfedd) mewn rhai ardaloedd.

Mae'r rhybudd yn cynnwys ardaloedd Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.