Cytundeb yn diogelu 555 swydd yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi cytundeb arfau newydd gwerth £2.4bn fydd yn diogelu 555 o swyddi yn Sir Fynwy.
Bydd y cytundeb yn golygu y bydd cwmni BAE Systems yn cynhyrchu 39 o gynhyrchion amrywiol ar yfer y lluoedd arfog.
Fel rhan o'r cytundeb, bydd BAE Systems yn buddsoddi £32m i uwchraddio ac adnewyddu'r cyfleusterau cynhyrchu yng Nglascoed, Sir Fynwy.
Fe fyddan nhw hefyd yn anelu at recriwtio mwy na 200 o brentisiaid a graddedigion dros gyfnod y cytundeb, ac yn cynnig cwrs gradd arbennig mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Abertawe.
Daw'r cytundeb wedi'r cyhoeddiad am £16.5bn i amddiffyn dros bedair blynedd er mwyn moderneiddio'r lluoedd arfog.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Jeremy Quin: "Mae amddiffyn yn tanategu cannoedd o filoedd o swyddi ar draws y DU, gan gynnwys de Cymru. Mae buddsoddi yn hanfodol wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ailadeiladu'n gryfach o'r pandemig Covid-19."
Yr amcangyfrif yw y bydd 1,260 o bobl yn gweithio ar y cytundeb newydd ar draws pum safle BAE yn y DU.
Mae hyn yn cynnwys:
555 swydd yng Nglascoed, Sir Fynwy;
320 swydd yn Radway Green, Sir Gaer;
340 swydd yn Washington, Tyne & Wear;
30 swydd yn Bishopston ger Glasgow;
15 swydd yn Ridsdale, Northumberland.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019