Gorymdaith yn nodi 75 mlynedd ers ymgyrch D-Day
- Cyhoeddwyd

Ronald Thorpe, un o'r rhai oedd yn rhan o gyrch D-Day, yn gosod torch ar gofeb rhyfel Llandudno
Mae cyn-aelodau'r lluoedd arfog, gan gynnwys rhai oedd yn rhan o gyrch D-Day, wedi gorymdeithio yn Llandudno i nodi 75 mlynedd ers yr ymosodiadau ar draethau Normandie.
Cafodd yr orymdaith ei threfnu gan yr elusen Blind Veterans UK, sydd â chanolfan yn y dref.
Daeth y digwyddiad i ben gyda gwasanaeth coffa wrth gofeb ryfel Llandudno.
Dywedodd Ronald Thorpe, 95, aelod o'r Môr-filwyr Brenhinol oedd yn rhan o gyrch ardal Traeth Aur bod D-Day "yn eich atgoffa o erchyllterau rhyfel. Does dim enillwyr."

Cafodd yr orymdaith ei chynnal ar y prom yn Llandudno
Mae Mr Thorpe, sy'n dod o Nottingham ac â nam ar ei olwg, ymhlith y cyn-filwyr sy'n cael cefnogaeth gan yr elusen yn Llandudno.
Diogelu pibell olew yn ardal Port-en-Bessin oedd prif orchwyl ei gyrchlu ar 6 Mehefin 1944, ond erbyn iddyn nhw ddynesu i'r lan "roedd yr Almaenwyr wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd ac yn tanio'n drwm".
"Hyd heddiw, dydw i ddim yn gwybod a gafodd ein llong ei tharo gan ergydion y gelyn ynteu ffrwydryn, ond y peth nesaf y gwyddwn, roeddwn i yn y dŵr," meddai.
Ni laniodd Mr Thorpe, sy'n byw yn Nottingham, ar y traeth ei hun, a'i atgof nesaf oedd cael ei drin ar fwrdd un o longau'r lluoedd arfog, cyn ail-ymuno â Chomando Rhif 47 y Môr-filwyr Brenhinol.

Roedd pedwar o bobl oedd yn y digwyddiad coffa yn Llandudno yn rhan o gyrch D-Day
"Ro'n i wedi cael cyfergyd, ond dywedodd cyd-filwyr wrtha'i mai fy mhrif ofid oedd ble roedd fy nryll.
"Roedden ni wedi hyfforddi am flynyddoedd ar gyfer y glaniadau yn Yr Alban ac Ynys Wyth.
"Roedd cydweithwyr agos yn chwerthu a thynnu coes gyda'i gilydd yn y bore cyn glanio... y troeon diwethaf y bydden ni'n gweld llawer ohonyn nhw'n fyw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014