Dedfrydu dyn am ymddygiad afreolus mewn siop Tesco
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a rwygodd lieniau plastig oedd yn gorchuddio dillad mewn archfarchnad ym Mangor wedi cael gorchymyn i wneud 250 awr o waith di-dal yn y gymuned.
Roedd Gwilym Owen, 28 oed o Gaerwen, Ynys Môn, yn protestio am waharddiad Llywodraeth Cymru ar werthu nwyddau oedd ddim yn hanfodol yn ystod y cyfnod clo byr ddiwedd Hydref.
Plediodd yn euog o ddifrodi'r plastig ac o ymddygiad afreolus yn y siop ar 23 Hydref.
Dywedodd ei gyfreithiwr wrth y llys ei fod wedi cael cefnogaeth gan rai, ond beirniadaeth gan eraill, a'i fod yn derbyn bod ei weithred wedi rhannu barn.
Dywedodd Gilly Harradence wrth ynadon Caernarfon fod y rheolau wedi eu haddasu ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, ac nad oedd wedi mynd i'r siop gyda'r bwriad o achosi trafferth.
Fe wnaeth cadeirydd yr ynadon ddyfarnu £200 o iawndal i Tesco a gorchymyn Owen i dalu costau o £180.
Dywedodd wrth Owen: "Doeddech chi'n malio dim am ddiogelwch a lles y staff na chwsmeriaid yn y siop. Mae'n rhaid bod eich gweithredoedd wedi achosi ofn i nifer o bobl o'ch cwmpas."
Ychwanegodd fod Owen wedi mynd i'r siop i amharu ar y busnes yn "faleisus", a'i fod wedi defnyddio "iaith gas a ffiaidd".
Gadawodd Owen y llys heb wneud unrhyw sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2020