Ffordd Blaenau'r Cymoedd: 'Diffyg gwerth am arian'

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Blaenau'r Cymoedd
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad artist o ffordd newydd Blaenau'r Cymoedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhuddo gan Blaid Cymru o fethu â sicrhau gwerth am arian am waith ar ran o ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Pris y cynllun rhwng Dowlais a Hirwaun yw £590m.

Ond bydd y trethdalwr yn talu dros £1bn yn y pen draw o ganlyniad i'r model ariannu mae'r llywodraeth yn ei ddefnyddio.

Dywed gweinidogion fod y ffigwr terfynol yn cynnwys costau cynnal a chadw ac na fyddai'r prosiect yn gallu mynd yn ei flaen fel arall.

Model ariannu newydd

Cyhoeddodd gweinidog yr economi fis diwethaf mai'r gwaith o ddeuoli 11 milltir o'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun fydd y cynllun cyntaf i gael ei gyflawni gan ddefnyddio'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

O dan y dull hwn dyfernir contractau i bartneriaid preifat i adeiladu a chynnal asedau cyhoeddus.

Yn gyfnewid am hyn, mae Llywodraeth Cymru yn talu ffi i'r datblygwr, a fydd yn talu cost adeiladu a chynnal a chadw'r prosiect, yn ogystal â'r llog.

Ar ddiwedd y cytundeb bydd yr ased yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus.

Yn achos yr A465, cost y gwaith yw £590m.

Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn talu £38m y flwyddyn am 30 mlynedd, cyfanswm o £ 1.14bn.

Mae'r ffigwr hwn yn cynnwys cost cynnal a chadw'r ffordd trwy gydol y cytundeb.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dull hwn o ariannu'n wastraff arian yn ôl Delyth Jewell AS

Yn ôl Aelod y Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, Delyth Jewell, mae'r swm yn "wastraff arian cyhoeddus.

"Rydyn ni'n siarad am ddarn o 11 milltir o ffordd sy'n mynd i sicrhau bod llywodraethau am ddegawdau i'r dyfodol yn parhau i dalu'r pris.

"Ni all hynny gynrychioli gwerth da am arian.

"Gyda'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, mae'n cynnwys gweithio gyda chwmnïau preifat a sicrhau bod yn rhaid iddynt wneud elw.

"Oes, mae yna gostau cynnal a chadw y byddan nhw'n eu talu ond bydd cryn dipyn o elw y byddan nhw'n sicrhau eu bod yn ei wneud fel rhan o hynny."

Yn ôl gwrthwynebwyr, dydy'r model ariannu yma'n ddim mwy na fersiwn newydd o'r Fenter Cyllid Preifat - PFI - sydd wedi bod mor ddadleuol gan adael cyrff cyhoeddus mewn dyled flynyddoedd ar ôl i waith adeiladu gael ei gwblhau.

Fodd bynnag, mae gweinidogion yn dadlau bod y model hwn yn fwy tryloyw, yn dileu costau cudd, ac yn sicrhau buddion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Er enghraifft, yn achos cynllun yr A465 maen nhw'n dweud y bydd 120 o brentisiaethau.

'Dyma'r dull gorau'

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Prif Weinidog Cymru: "Yr hyn mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn ei ddarparu ar gyfer y darn o ffordd rhwng Dowlais a Hirwaun yw contract pris sefydlog.

"Felly, mae'r risgiau yn cael eu hysgwyddo gan y contractwr sector preifat - mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r ffordd hon yn unol â'r gyllideb ac ar amser, neu fel arall mae cosbau sylweddol iawn i'w hysgwyddo ganddyn nhw ac nid gan y pwrs cyhoeddus."

Ychwanegodd Mark Drakeford: "Pe na baem ni'n ei wneud drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol, ni fyddai'r ffordd hon yn cael ei hadeiladu.

"Dyma'r unig ffordd y gallwn wneud y buddsoddiad hwnnw."

Mae Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10.00 GMT ddydd Sul 6 Rhagfyr ac ar yr iPlayer.