'Cwestiynau difrifol' am wario £51m yn ormod ar yr A465

  • Cyhoeddwyd
A465

Mae cwestiynau difrifol i'w gofyn ynglŷn â sut fod cynllun ffordd wedi mynd £51m dros ei gyllideb, yn ôl AC Plaid Cymru.

Dywedodd Steffan Lewis ei fod eisiau gwybod pwy fydd yn talu'r gost ychwanegol ar gyfer y gwaith ar ffordd yr A465, Blaenau'r Cymoedd.

Mae Llywodraeth Cymru ar ganol ffrae gyda'r contractwyr, Costain dros y cynllun i ychwanegu lôn newydd rhwng Gilwern a Brynmawr.

Mae Costain wedi dweud eu bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru.

'Cymaint o'i le'

Ddydd Llun dywedodd y llywodraeth fod Costain wedi canfod y prosiect yn "llawer anoddach i'w chwblhau nag oedden nhw wedi'i feddwl i ddechrau" oherwydd amgylchiadau'r tir.

Mae disgwyl i'r gwaith nawr gostio tua £270m, ac mae disgwyl oedi nes hydref 2019.

"Mae cwestiynau difrifol i'w gofyn am y broses caffael fan hyn," meddai Mr Lewis, sydd yn cynrychioli Dwyrain De Cymru.

"Sut aeth cymaint o'i le fan hyn, pan 'dyn ni'n ystyried y dylai'r broses gaffael fod wedi adnabod ac atal y canlyniad yma?"

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steffan Lewis yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth

Ychwanegodd ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru fod yn agored am y cynllun, a chael eu cwestiynu amdano gan ACau.

Ddydd Llun dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod y llywodraeth "mewn anghydfod gyda Costain ar nifer o faterion ynghylch dosraniad risg yn y cytundeb i sicrhau y byddan nhw [Costain] ond yn cael eu talu'r hyn sydd wedi'i gytundebu iddyn nhw".

Dywedodd llefarydd ar ran Costain: "Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar drafodaethau masnachol penodol yn ymwneud â'n cleientiaid ond rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gwblhau'r prosiect cymhleth yma."