Saith yn y llys ar gyhuddiad o gynllwynio i herwgipio plentyn
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth tri o'r saith ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun
Mae dau ddyn a phum dynes wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o gynllwynio i herwgipio plentyn yn Ynys Môn ym mis Tachwedd.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, plediodd dau yn euog i'r cyhuddiad, gyda'r pump arall yn pledio'n ddieuog.
Plediodd un diffynnydd hefyd yn ddieuog i gyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant.
Roedd tri o'r rhai a gyhuddwyd yn bresennol yn y gwrandawiad ddydd Llun. Ymddangosodd y pedwar arall trwy gyswllt fideo.
Bydd achos yn digwydd ar 9 Awst yng Nghaernarfon, os nad oes modd cynnal un ddiwedd mis Mehefin 2021.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth y ddau a blediodd yn euog y byddan nhw'n cael credyd am eu pledion euog, ond na fyddan nhw'n cael eu dedfrydu tan ganlyniad yr achos.