Y Bencampwriaeth: Stoke 1-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Caerdydd i droi'r gêm ar ei phen wrth iddyn nhw drechu Stoke oddi cartref nos Fawrth.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 25 munud wedi i Sean Morrison sgorio i'w rwyd ei hun ar ôl i Alex Smithies wyro ergyd Tyrese Campbell ar yr amddiffynnwr ac i mewn i'r rhwyd.
Bu bron i Stoke ddyblu eu mantais yn yr ail hanner wedi i Morrison ildio cic o'r smotyn, ond fe wnaeth Smithies arbed ergyd y Cymro Sam Vokes.
Fe wnaeth yr Adar Gleision daro 'nôl wedi 66 munud, gyda Robert Glatzel yn sgorio o groesiad Joe Ralls, funudau wedi i'r ymosodwr ddod i'r maes fel eilydd.
Llwyddodd Caerdydd i fynd ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda 15 munud yn weddill, wrth i Morrison sgorio i'r rhwyd gywir y tro yma gyda pheniad o gic gornel Ralls.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn codi i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth.