Oedi yn Dover yn bryder i borthladdoedd y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lorïau mewn porthladd

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai oedi ym mhorthladd Dover ar ôl i'r cyfnod pontio Brexit ddod i ben godi cwestiwn am ddyfodol hir dymor porthladdoedd gorllewin Cymru.

Yn ôl Eluned Morgan, mi allai tagfeydd yn Dover olygu y bydd mwy o gwmnïau cludiant yn dewis mynd yn uniongyrchol o Iwerddon i Ffrainc.

Fe ddaw ei sylwadau ar ôl i gwmni DFDS gyhoeddi y bydd yna wasanaeth uniongyrchol yn rhedeg o Rosslare i Dunkirk o 2 Ionawr 2021.

Mae cwmni Stena Line wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ehangu'r gwasanaeth o Rosslare i Cherbourg, gyda gwasanaeth penodol i nwyddau yn dechrau ar 4 Ionawr 2021.

'Pryder mawr'

Mae Eluned Morgan yn dweud y bydd y sefyllfa yn ne ddwyrain Lloegr yn effeithio ar batrymau cludiant i borthladdoedd Cymru.

"Wrth drafod gyda'r penaethiaid yn Irish Ferries a Stena Line, mae'n glir eu bod nhw hefyd yn poeni rhywfaint," meddai, "yn arbennig o gofio y bydd route newydd yn dechrau yn uniongyrchol o Iwerddon sydd yn mynd yn syth i Ffrainc.

"Mae hynny o bosib yn mynd i danseilio y routes yna mewn i Sir Benfro, felly mae hynny yn bryder mawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai'n pryderu ynghylch effaith Brexit ar wasanaethau mewn porthladdoedd fel Abergwaun

"Mae'r ardaloedd hynny yn ddibynnol ar beth sydd yn digwydd yn y porthladdoedd hynny. Dwi'n credu fod e gyd yn dibynnu ar beth sydd yn digwydd yn Dover.

"Os ydyn ni yn gweld fod pethe yn clogio lan yn Dover, bod loris yn gorfod aros am oriau hir, yna wedyn mae hi'n debygol y bydd y route uniongyrchol i Ffrainc yn datblygu.

"Ni wythnosau i ffwrdd o Brexit, dal dim syniad a fyddwn ni yn gorfod talu tariffs gan y bobl sydd yn dod â nwyddau o Iwerddon."

'Neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd'

Fydd nwyddau o Iwerddon ddim yn gorfod cael eu gwirio yn llawn tan fis Gorffennaf 2021, ond mae Edward Perkins o Gyngor Tref Abergwaun ac Wdig yn bryderus nad oes cyfleusterau wedi cael eu datblygu yn y porthladd ar gyfer y broses honno.

"Mae'n rhaid i chi gael pobl y trethi yma, pobl iechyd anifeiliaid, a ble maen nhw yn mynd i sefydlu safle am hwnna?" gofynnodd. "Rwy'n pryderu. Beth sydd yn mynd i ddigwydd? Does neb yn gwybod.

"S'dim dechreuad wedi bod fan hyn o gwbl. Beth sydd yn mynd i ddigwydd ar ôl dwy, tair blynedd? Does neb yn gallu dweud."

Dywedodd llefarydd ar ran Stena Line nad oedd bygythiad i ddyfodol Abergwaun, a bod y fferi sydd fel arfer yn gwasanaethu porthladd Rosslare wedi cael ei hadnewyddu.

Doedd Irish Ferries, sydd yn rhedeg y gwasanaeth o Ddoc Penfro, ddim am wneud sylw.

'Porthladdoedd Cymru ymhell o fod yn barod'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder yn arbennig ynghylch yr adnoddau fydd eu hangen mewn porthladd mor brysur â Chaergybi

Mae aelodau pwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan yn rhybuddio bod yna "risg annerbyniol" a "sylweddol" na fydd gan borthladdoedd Cymru'r adnoddau gwirio tollau angenrheidiol ar gyfer Brexit.

Yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb, mae Cymru "ymhell o fod yn barod" ar gyfer newidiadau o 1 Ionawr ymlaen, boed cytundeb masnach ai peidio rhwng y DU a'r UE.

"Gyda phythefnos un unig nes diwedd y cyfnod pontio, dydy penderfyniadau dal heb eu gwneud dros seilwaith allweddol yng Nghymru dros gynnal y gwiriadau hyn ac mae systemau Technoleg Gwybodaeth hollbwysig dal angen eu profi [i fod] yn weithredol," meddai.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi gweithio "i sicrhau safle" gwirio nwyddau yng Nghaergybi, ac mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am adnoddau yn nwy porthladd y gorllewin.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod ond wedi cael bod yn rhan o'r cynllunio ers "yn hwyr yn y flwyddyn".

Disgrifiad o’r llun,

Dyw systemau TG hanfodol heb eu profi eto, medd yr AS Ceidwadol, Stephen Crabb

Mewn adroddiad newydd mae'r pwyllgor yn mynegi pryder ynghylch gallu porthladdoedd Cymru i gynnal "miloedd o wiriadau newydd bob diwrnod" wedi i'r DU stopio dilyn rheolau masnach yr UE.

Maen nhw'n rhybuddio ynghylch goblygiadau "cyfuniad o systemau TG, newydd a heb eu profi, a gwiriadau a phrosesau newydd" ym mhorthladd Caergybi.

Mater arall "o bryder dwys" yw'r methiant hyd yma i gadarnhau lleoliad adnodd clirio mewndirol yng Nghaergybi ac adnoddau cyfatebol porthladdoedd y gorllewin.

Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi cynlluniau wrth gefn o ran trefniadau clirio nwyddau sy'n cyrraedd y porthladdoedd, pe na bai adnoddau mewndirol ar waith erbyn Gorffennaf, ac eglurder am fesurau i leihau trafferthion.

Rhybuddiodd Mr Crabb fod yna "risgiau sylweddol o oedi a tharfu i lif llyfn masnach" trwy borthladd Caergybi, a bod "gormod o fusnesau o hyd ddim yn gwybod sut y gall eu masnach gyda'r UE gael ei effeithio".

Mae'n "hanfodol," fe ychwanegodd, fod llywodraethu Cymru a'r DU'n cydweithio "i wneud y penderfyniadau angenrheidiol ynghylch lleoliad adnoddau gwiriadau newydd nwyddau sy'n symud trwy Gaergybi, Abergwaun a Doc Penfro".

Ymatebion y llywodraethau

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod wedi "buddsoddi tua £1bn i sicrhau bod ein ffiniau a'n busnesau yn barod".

Dywed eu datganiad eu bod "wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau safle yn Ynys Môn" ar gyfer gwiriadau clirio nwydau ym mhorthladd Caergybi.

Ychwanega'r datganiad bod "cyfrifoldeb dros adnoddau mewndirol i wasanaethu porthladdoedd Doc Penfro ac Abergwaun wedi'u datganoli ac yn fater i Lywodraeth Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi galw ar Lywodraeth y DU ddechrau'r flwyddyn "i'n cynnwys ni yn y cynllunio angenrheidiol wrth i'r DU baratoi i adael y cyfnod pontio ddiwedd eleni".

Ond dywedodd na chafodd weinidogion fod yn rhan o'r cynllunio hynny "tan yn hwyr yn y flwyddyn" a bod "amser gwerthfawr wedi'i golli".

Ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru'n "gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol perthnasol a phorthladdoedd i leihau tarfu i'r porthladdoedd" a bod "busnesau, partneriaid a defnyddwyr y porthladdoedd yn cael gwybodaeth wrth i'r trafodaethau hyn fynd rhagddynt".