Covid: 'Angen cymorth' ar raddedigion mewn pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tim DoddFfynhonnell y llun, Tim Dodd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tim Dodd yn dweud ei fod yn chwilio am gyfleoedd eraill wedi iddo fethu cael gwaith fel newyddiadurwr

Mae angen cymorth a chefnogaeth i atal myfyrwyr rhag teimlo "wedi'u gadael ar ôl" oherwydd y pandemig coronafeirws, medd un undeb.

Mae BBC Cymru wedi siarad gyda graddedigion sydd wedi ymgeisio am ddwsinau o swyddi, ond heb gael ateb.

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) nawr yn pryderu fod llawer o raddedigion yn cael trafferth dod o hyd i waith mewn cyfnod ansicr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi myfyrwyr.

Pan darodd y pandemig a'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, fe symudodd addysgu myfyrwyr ar-lein oherwydd mesurau pellter cymdeithasol, ac fe gafodd llawer o leoliadau proffesiynol eu canslo.

'Dwi wedi ceisio am 80 swydd'

Pan raddiodd Tim Dodd o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (Jomec) ym mis Medi, roedd wedi gobeithio cychwyn ar yrfa mewn newyddiaduraeth.

Ond gyda lleoliadau i fyfyrwyr wedi'u canslo, doedd gan y myfyrwyr ddim cyfle i weithio mewn ystafelloedd newyddion a dangos eu sgiliau i ddarpar gyflogwyr.

Mae Tim bellach yn chwilio am gyfleoedd mewn meysydd eraill.

Dywedodd: "Am tua deufis, ro'n i'n gwneud dim ond ymgeisio am swyddi. Rwy'n sylweddoli nawr ar ôl ymgeisio am tua 80 swydd a naill ai'n cael fy ngwrthod neu ddim yn cael ateb nad yw e werth treulio fy holl amser yn gwneud hynny.

"Dyw e ddim mor syml â mynd 'nôl at be o'n i'n 'neud o'r blaen mewn manwerthu. Nes i ddim clywed 'nôl gan WHSmiths pan nes i ymgeisio ychydig wythnosau nôl.

"Mae cymaint o bobl allan o waith gyda mwy o brofiad na fi, felly dyw e ddim yn deg i roi rhywun sydd newydd raddio ar restr fer.

"Dwi'n styc braidd... alla'i ddim 'neud y swydd o'n i wedi breuddwydio amdani, ond alla'i ddim 'neud lot arall chwaith."

Ffynhonnell y llun, Becky Ricketts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Becky Ricketts bod angen gwneud mwy i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl graddio

Dywedodd llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts: "Mae myfyrwyr ar bennau'u hunain gyda'u gradd i bob pwrpas, ac yn ceisio am swydd mewn hinsawdd wahanol iawn i pan aethon nhw i brifysgol yn y dechrau."

Dywedodd Ms Ricketts bod llawer o fyfyrwyr yn teimlo'n bryderus am ddod o hyd i waith.

"Gyda'r phroblemau gyda hunan ynysu a'r ansicrwydd am beth ddaw yn 2021, mae'n mynd i gael effaith niweidiol ar iechyd meddwl myfyrwyr."

Mae economegwyr yn amcangyfrif bod graddedigion wedi gwneud yn well yn y farchnad swyddi na'r gymdeithas yn ehangach, a bod llawer o gyflogwyr a phrifysgolion wedi addasu.

Er bod recriwtio graddedigion wedi gostwng o 12% eleni, mae'r Institute of Student Employers yn credu bod rheswm i fyfyrwyr fod yn optimistig.

Wrth siarad am y gefnogaeth i fyfyrwyr sy'n astudio ym mhrifysgolion Cymru ar hyn o bryd, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu £10m yn ychwanegol i gefnogi myfyrwyr, gan gynnwys cefnogaeth iechyd meddwl ychwanegol.

Dywedodd llefarydd: "Mae hyn ar ben y £27m i gefnogi prifysgolion eleni, ynghyd â £1.5m i gefnogi myfyrwyr sydd wedi graddio eleni i gychwyn ar eu gyrfaoedd."